Mae Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Torfaen a llefarydd materion cartref Llafur yn San Steffan, yn dweud bod y golygfeydd treisgar yn Llundain ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 13) yn rhai “cwbl annerbyniol”.
Fe ddaw ar ôl i fwy na 100 o bobol gael eu harestio yn dilyn protestiadau gan brotestwyr asgell dde, wrth iddyn nhw ymateb, medden nhw, i ffrae cofebion i bobol yn ymwneud â’r diwydiant masnachu caethweision.
“Ces i fy ffieiddio gan y golygfeydd ddoe, oedd yn gwbl annerbyniol,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky.
“Dw i eisiau dweud gair yn benodol hefyd am yr olygfa ofnadwy honno o rywun yn wrineiddio ger cofeb i’r Cwnstabl Keith Palmer.
“Ymddygiad cwbl ffiaidd, a gobeithio bod yr unigolyn yn cael ei adnabod ac yn mynd gerbron ei well.”
Mae’n dweud y byddai’n barod i weithio’n drawsbleidiol a chefnogi Llywodraeth Prydain i sicrhau bod difrodi cofebion rhyfel yn dod yn drosedd benodol.
Beirniadu Llywodraeth Prydain
Wrth ymateb i thema ehangach y protestiadau, dywed Nick Thomas-Symonds fod Llywodraeth Prydain wedi bod yn euog o “fethiant cronig mewn arweinyddiaeth wleidyddol” wrth fynd i’r afael â helynt Windrush.
Ac mae’n dweud bod angen i’r prif weinidog Boris Johnson amlinellu “camau pendant” i “fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb a’r hiliaeth sy’n dal yn bodoli, yn drist iawn, yn ein gwlad”.
“Mae angen i’r prif weinidog gamu ymlaen, dangos ei fod e’n deall y loes a’r pryder ynghlwm wrth y straeon y mae pobol groenddu ein gwlad wedi’u hadrodd mewn modd mor emosiynol dros yr wythnosau diwethaf, ac amlinellu’r camau y mae ei lywodraeth bellach yn bwriadu eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â hynny,” meddai.
Dywedodd mai 60 o bobol yn unig sydd wedi derbyn iawndal yn sgil helynt Windrush, gyda chyfanswm o ddim ond £360,000 wedi’i dalu.
“Wrth gwrs fy mod i’n falch dros y 60 o bobol hynny, ond rydyn ni’n sôn am filoedd o bobol a gafodd eu trin yn anghywir dros y cenedlaethau.
“Mae’r ffaith fod cyn lleied o bobol wedi cael iawndal – a dim ond y rheiny – yn fethiant cronig mewn arweinyddiaeth wleidyddol.
“Mae angen i’r llywodraeth ganolbwyntio, mae angen iddi gamu i fyny ac mae angen iddi weithredu.”
Mae’n galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu ar sail argymhellion adroddiad annibynnol yn 2017, yn dilyn ymchwiliad a gafodd ei gadeirio gan yr aelod seneddol Llafur, David Lammy, llefarydd cyfiawnder y blaid.
Mae hefyd yn galw am weithredu ar sail adroddiad Wendy Williams fis Mawrth eleni, oedd yn amlinellu’r gwersi y dylid eu dysgu o helynt Windrush.