Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Y Fenni wedi canslo’r digwyddiad eleni yn sgil y coronafeirws.

Mae’r digwyddiad blynyddol yn un poblogaidd ers i ddau ffermwr ei sefydlu yn 1999 yn dilyn argyfwng BSE, ac mae’n denu mwy na 30,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae lle i gredu bod yr ŵyl yn cyfrannu £4m at yr economi leol, ac maen nhw’n cyflogi mwy na 120 o bobol ifanc leol dros benwythnos yr ŵyl, ac yn cefnogi myfyrwyr arlwyo i gael profiad gwaith.

Datganiad

Mewn datganiad yn cadarnhau bod yr ŵyl wedi’i chanslo, mae’r trefnwyr yn crybwyll yr anawsterau i’r diwydiant bwyd yn sgil y coronafeirws.

“Rydym wedi ceisio’n  galed iawn i ddod o hyd i ffordd o gynnal gŵyl fis Medi yma ond gyda thristwch mawr, rhaid cyhoeddi oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch y pandemig COVID-19 na fydd ein dathliad bwyd blynyddol yn mynd yn ei flaen,” meddai’r datganiad.

“Ers 23 o flynyddoedd, mae ein sefydliad nid-am-elw wedi cydweithio â busnesau bach, cynhyrchwyr, ffermwyr a thyfwyr ac wedi eu harddangos.

“Yn yr ysbryd hynny, rydym yn gwneud yr hyn allwn ni i gefnogi’r rhai sydd ynghlwm wrth y meysydd hyn, ac yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu pobol yn ystod amser pan fo cyflenwadau bwyd wedi dod yn bwysicach nag erioed.

“Rydym yn annog cefnogwyr ein gŵyl i barhau i ymgysylltu â’r rhai yn ein teulu estynedig.”

Maen nhw’n dweud y bydd “nifer o bethau cyffrous” ar y gweill ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesaf i “gefnogi’r gymuned gyfan”.