Mae un plismon wedi’i ddiswyddo ac un arall wedi’i roi ar ddyletswyddau gweinyddol ar ôl i ddyn croenddu gael ei saethu yn Atlanta yn nhalaith Georgia yn yr Unol Daleithiau.
Fe ddaw’r newyddion yn dilyn ymddiswyddiad Erika Shields, pennaeth yr heddlu oedd wedi camu o’r neilltu yn dilyn marwolaeth Rayshard Brooks, dyn 27 oed, sydd wedi arwain at brotestiadau yn y dalaith.
Daw’r digwyddiad yn fuan ar ôl marwolaeth George Floyd dan law’r heddlu ym Minneapolis.
Enw’r plismon sydd wedi’i ddiswyddo yw Garrett Rolfe, yn ôl adroddiadau.
Fe fu’n gweithio i’r heddlu ers 2013.
Devin Bronsan yw enw’r plismon sydd wedi’i roi ar ddyletswyddau gweinyddol, ac mae hwnnw’n aelod o’r heddlu ers 2018.
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi deunydd fideo o’r digwyddiad.
Yn dilyn ei farwolaeth, mae bwyty yn yr ardal wedi’i roi ar dân.
Mae Maer Atlanta yn galw am ddiswyddo’r ail blismon hefyd, gan ddweud nad oedd gweithredoedd y ddau yn “gyfiawn”.
Mae Swyddfa Ymchwiliadau Georgia yn ymchwilio i farwolaeth Rayshard Brooks, a’r gred yw iddo gael ei saethu ar ôl i’r heddlu ymateb i adroddiadau bod dyn meddw yn cysgu yn ei gar ac yn atal mynediad i lôn ger y bwyty, ac iddo fethu prawf alcohol.