Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion a gwybodaeth ar ôl i graffiti hiliol gael ei baentio ar eiddo ym Mhenygroes.

Gwnaed y graffiti ar ddrws garej ger eiddo sydd wedi’i leoli ar y stryd fawr.

Galwyd yr heddlu yn fuan ar ôl 9 y bore yma (dydd Sadwrn, Mehefin 13) ac mae ymholiadau bellach ar y gweill.

Postio ar Facebook a Galw’r Heddlu

Fe bostiodd Margaret Ogunbanwo, sy’n rhedeg ei busnes, Maggie’s Exotic Foods, o gegin hen dafarn y Red Lion, lun o’r graffiti ar ei chartref ym Mhen-y-groes ar Facebook a galw’r heddlu.

Mae llawer o bobl wedi ymateb ar Facebook yn mynegi dicter am y graffiti ac yn cynnig eu cefnogaeth.

Dywedodd Mrs Ogunbanwo wrth y Daily Post bod ei theulu wedi dioddef camdriniaeth o’r blaen ond mae dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ffonio’r heddlu.

Condemnio

Mae Mrs Ogunbanwo wedi dysgu Cymraeg yn rhugl gyda Popeth Cymraeg gan wneud rhaglen goginio o’r enw Galwch Acw ar y wefan. Dywedodd Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn:

“Rwyf yn condemnio [y weithred] yn llwyr. Roedd hon yn weithred gwbl annerbyniol.  Does dim lle i unigolion sy’n coleddu syniadau hiliol yng Nghymru.”

Ymgyrch angenrheidiol

Yn y Daily Post, dywedodd y Cynghorydd Sir o’r blaid Plaid Cymru Craig ab Iago: “Mae hyn yn ffiaidd. Mae Maggie a’i phlant yn rhan annatod o Dyffryn Nantlle. Mae’r teulu’n siarad Cymraeg ac maen nhw’n gymaint rhan o’n cymuned â neb. Sefydlodd Maggie fusnes yma, aeth ei phlant i’r ysgol yma.

“Mae’r ymosodiad hiliol ofnadwy hwn y tu allan i’w chartref yn dangos pam mae ymgyrch Black Live Matter yn angenrheidiol. Mae hiliaeth yn fater nid yn unig yn Minneapolis neu Lundain ond yma ym Mhenygroes, Llanllyfni a Chaernarfon, ledled Cymru.”

“Sefyll mewn undod”

Dywedodd AS Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams:

“Rwy’n sefyll mewn undod â’r teulu ac yn ategu’r feirniadaeth gryf gan y gymuned leol.

“Rwy’n gwybod bod pobl Penygroes ac Arfon wedi eu ffieiddio gan y weithred afiach hon. Ond bydd yn cryfhau ein pendantrwydd i sefyll gyda’n gilydd yn erbyn hurtrwydd ffiaidd hiliaeth.

“Mae gennym gymuned gref yma yn Arfon, wedi’i chyfoethogi gan amrywiaeth a’n traddodiad o sefyll gyda’n gilydd yng ngwyneb gwahaniaethu.

“Bydd pwy bynnag a wnaeth hyn yn dysgu’n eithaf cyflym bod cymdeithas oddefgar yn gryfach o lawer na’r anhrefn rhanedig y maent yn dyheu amdano.”

Apêl am wybodaeth

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un all fod â gwybodaeth neu unrhyw un a welodd ymddygiad amheus yn y cyffiniau neithiwr neu yn ystod oriau mân y bore gysylltu â PC Mathew Tapping yng ngorsaf heddlu Penygroes ar 101 neu drwy’r dudalen sgwrs fyw ar y we gan ddyfynnu’r cyfeirnod: Y084193.