Gyda gŵyl Tafwyl yn cael ei chynnal ar-lein eleni – penwythnos nesa’ (20 Mehefin) – mae’r trefnwyr wedi mynd ati i gynnig nifer o syniadau ar sut i greu gŵyl gartref…!

Dywedodd Huw Stephens, a fydd yn cyflwyno: “Mae’n haf gwahanol a rhyfedd i bawb. Ond mae Caerdydd, cerddoriaeth a’r gymuned Gymraeg yn parhau i ddod a dipyn bach o oleuni i fis Mehefin.”

Beth am addurno’r ardd gyda bunting wedi ei ddylunio gan yr arlunydd Efa Lois, isod?

Neu roi tro ar goginio pitsa Ffwrnes?

Os ewch chi ati i gasglu ysgawen heddiw gallwch chi greu siampen ‘sgawen yn barod at ddiwrnod yr ŵyl!

Byddwch yn gallu rhannu lluniau o’ch Tafwyl yn eich tŷ gyda’r hashnod #tafwyl20

Yng ngeiriau Huw Stephens: “Logiwch mlaen, Chiliwch allan, Trowch e lan.”