Mae UKTV wedi penderfynu y gall pennod ddadleuol o’r gyfres gomedi Fawlty Towers ddychwelyd i’w gwasanaeth ffrydio yn dilyn pryderon am ystrydebau hiliol.
Mae sawl cyfres boblogaidd wedi cael eu tynnu oddi ar iPlayer y BBC a Netflix yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn dilyn protestiadau Black Lives Matter ledled Prydain ar ôl i George Floyd gael ei ladd gan yr heddlu ym Minneapolis yn yr Unol Daleithiau.
Ymhlith y cyfresi sydd wedi cael eu tynnu mae Little Britain, The League of Gentlemen a The Mighty Boosh.
Mae disgwyl i’r bennod ddadleuol o Fawlty Towers, sy’n cynnwys y llinell “Don’t mention the war”, ddychwelyd dros y dyddiau nesaf, ac fe fydd yn cynnwys rhybudd “cynnwys a iaith sarhaus”.
Mae’n canolbwyntio ar safbwyntiau hen gadfridog oedd yn casáu’r Almaenwyr, ac mae Basil Fawlty yn sarhau grŵp o Almaenwyr sy’n aros yn y gwesty drwy eu hatgoffa nhw am yr Ail Ryfel Byd.
Mae hefyd yn cynnwys sylwadau sarhaus gan y cadfridog am dîm criced India’r Gorllewin.
Ymhlith y rhai oedd wedi beirniadu’r penderfyniad i ddileu’r bennod oedd John Cleese, seren y gyfres sy’n chwarae’r cymeriad Basil Fawlty, perchennog gwesty sy’n lladd ar bawb a phopeth.
Yn ôl UKTV, byddan nhw’n parhau i adolygu cynnwys eu rhaglenni.
‘Gwneud hwyl am ben yr ystrydeb’
Yn ôl John Cleese, gwneud hwyl am ben Basil Fawlty, ac nid yr Almaenwyr, mae’r bennod.
“Os ydych chi’n rhoi geiriau nonsens yng ngheg rhywun rydych chi am wneud hwyl am ei ben, dydych chi ddim yn darlledu eu safbwyntiau nhw, rydych chi’n gwneud hwyl am eu pennau nhw, meddai wrth y papur newydd The Age.
“Roedd y cadfridog yn hen ffosil oedd ar ôl o’r degawdau a fu.
“Doedden ni ddim yn cefnogi ei safbwyntiau, ond yn gwneud hwyl am eu pennau nhw.
“Os na allan nhw weld hynny, os yw pobol yn rhy dwp i weld hynny, beth all rhywun ei ddweud?”
‘Dal eu gafael ar swyddi’
Yn ôl John Cleese, mae penderfyniadau’n cael eu gwneud gan bobol y BBC sydd “am ddal eu gafael ar eu swyddi”.
“Os yw ychydig o bobol yn cyffroi, maen nhw’n eu tawelu nhw yn hytrach na dal eu tir fel y bydden nhw wedi’i wneud 30 neu 40 o flynyddoedd yn ôl.”
Datganiad y BBC
“Rydym eisoes yn cynnig arweiniad i wylwyr ar draws rhai o’n teitlau comedi clasurol, ond rydym yn cydnabod y gall fod angen mwy o wybodaeth o’r cyd-destun ar rai o’n comedi o’r archifau, felly byddwn ni’n cynnig arweiniad a rhybuddion ychwanegol ar ddechrau rhaglenni er mwyn tynnu sylw at gynnwys a iaith allai fod yn sarhaus,” meddai llefarydd ar ran y BBC.
“Byddwn yn parhau i edrych ar ba gynnwys sydd ar gael, fel rydyn ni wedi’i wneud erioed.”