Mae 22 o weithwyr theatr yn sir Gaerfyrddin wedi colli eu swyddi dros nos yn dilyn ffrae dros ffyrlo rhwng yr asiantaeth fu’n eu cyflogi a’r cyngor lleol.
Roedd y 22 yn gweithio mewn theatrau sy’n cael eu cynnal gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, ond yn cael eu cyflogi gan asiantaeth Randstand.
O ganlyniad i’r ffrae am ffyrlo, fe roddodd y cyngor y gorau i dalu asiantaeth Randstand heb rybudd, yn ôl undeb y GMB, gan arwain at ddiswyddo 22 o weithwyr.
Mae undeb y staff theatr, y GMB, wedi galw’r driniaeth yn “warthus” gan alw ar y cyngor i sicrhau eu bod yn cael eu talu a bod eu swyddi yn cael eu gwarchod.
Dywed yr undeb fod staff wedi cael eu trin yn israddol, ar ôl derbyn toriad cyflog ac yna colli eu swyddi heb rybudd.
“Mae’r ffordd mae’r staff hyn wedi cael eu trin yn hollol warthus,” meddai Trefnydd Rhanbarthol GMB, Peter Hill.
“Mae nifer ohonynt wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i theatrau Sir Gaerfyrddin, yn aml yn gweithio oriau maith am dâl isel.
“Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ofalu am y staff, a dylen nhw gamu mewn ar unwaith i sicrhau bod staff yn derbyn y tâl sy’n ddyledus iddynt.”
Ymateb y cyngor
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi eu siomi gydag undeb y GMB am “roi camargraff o’r sefyllfa”.
“Mae’r timau yn ein theatrau yn cynnwys nifer o weithwyr asiantaeth, a gan nad yw yn eu cyflogi, ni all y cyngor roi’r gweithwyr hyn ar y cynllun ffyrlo,” meddai Paul Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Gaerfyrddin.
“Mae Randstad, yr asiantaeth sy’n darparu gweithwyr yn ôl y cytundeb, wedi cadarnhau eu bod mewn cyswllt â’r gweithwyr ac yn cefnogi’r rhai hynny sydd wedi dweud eu bod yn dymuno chwilio am waith arall.
“Unwaith y byddwn ni wedi dod dros y pandemig hwn, byddwn yn edrych ymlaen at adfer ein perthynas gyda gweithwyr yr asiantaeth er mwyn ein helpu i ddarparu gwasanaeth theatrau o’r radd flaenaf.”