Dylai Morgannwg fod yn croesawu Gwlad yr Haf i Gaerdydd heno, ond mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi cyhoeddi na fydd unrhyw griced sirol tan o leiaf Awst 1 yn sgil y coronafeirws.

Ers dyfodiad gemau ugain pelawd sirol yn 2003, mae pump chwaraewr wedi cynrychioli Morgannwg a Gwlad yr Haf – y Cymro Cymraeg Steffan Jones, Alviro Petersen a Jim Allenby sydd wedi arwain Morgannwg, a’r ddau chwaraewr yng ngharfan Morgannwg ar hyn o bryd, Craig Meschede a Colin Ingram.

Ond record byd oedd wedi para wyth mlynedd sydd dan sylw yn y darn diweddara’n edrych ar rai o gemau criced y gorffennol.

Gorffennaf 5, 2011. Prin y byddai neb wedi disgwyl i record byd gael ei thorri y noson honno, heb sôn am ddisgwyl i droellwr llaw chwith cymharol ddi-nod yn ei thorri. Ond fe aeth y clod i Arul Suppiah, troellwr o Kuala Lumpur, wrth iddo gipio chwe wiced am bump rhediad mewn 22 o belenni wrth i Forgannwg lithro o 72 am bedair i 98 i gyd allan.

Roedd yn berfformiad rhyfeddol ar lain Gerddi Sophia sydd heb fod yn enwog ar hyd y blynyddoedd am helpu’r troellwyr.

Ond mae’n amlwg fod yr ymwelwyr wedi rhagweld llygedyn o obaith wrth wahodd Morgannwg i fatio ar lain oedd wedi cael ei defnyddio ar gyfer y ddwy gêm flaenorol ac yn dangos arwyddion o dorri i fynny.

Rhyngddyn nhw, fe gipiodd y triawd sbin – Suppiah, yr Indiad Murali Kartik a’r troellwr coes Max Waller – yr holl wicedi rhyngddyn nhw wrth i Forgannwg gofnodi’r ail sgôr gwaethaf ar y pryd yn hanes y gystadleuaeth.

Cyrhaeddodd Gwlad yr Haf y nod o 99 mewn 14.3 o belawdau, gan fynd yn eu blaenau i orffen yn bedwerydd yn y grŵp a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth cyn colli yn y ffeinal yn erbyn Swydd Gaerlŷr.

Roedd Arul Suppiah wedi cipio tair wiced mewn batiad ugain pelawd o’r blaen, a’i ffigurau gorau cyn hynny oedd 3-22. Ei ffigurau gorau mewn unrhyw fformat oedd 4-39, a hynny yn erbyn Surrey mewn gêm 50 pelawd.

Roedd ei 6-5 wedi curo’r record flaenorol o 6-14 gan Sohail Tanvir i Rajasthan yn erbyn Chennai yn yr IPL yn 2008, ac fe barodd tan y tymor diwethaf, pan ddaeth Colin Ackermann y bowliwr cyntaf erioed i gipio saith wiced mewn gêm ugain pelawd sirol, yn erbyn Birmingham Bears.