Mae Viv Richards, cyn-fatiwr Morgannwg a Gwlad yr Haf, wedi’i ddewis mewn pôl gan wefan chwaraeon y BBC yn gricedwr tramor gorau erioed y gêm sirol yng Nghymru a Lloegr.

Chwaraeodd e i Wlad yr Haf rhwng 1974 a 1986 a Morgannwg rhwng 1990 a 1993.

Yn 1993, roedd e’n aelod o dîm Morgannwg gododd dlws undydd AXA Equity & Law.

Fe ddaeth i’r brig yn dilyn 18 pleidlais wahanol ymhlith cefnogwyr o bob sir.

Daeth e i’r brig yn y ddwy sir, gan ennill 90% o bleidleisiau Gwlad yr Haf a 38% o bleidleisiau Morgannwg, yr unig un ar y rhestr i ennill y bleidlais mewn mwy nag un sir.

Enillodd e 43% o’r bleidlais derfynol ar draws yr holl siroedd, gyda Clive Lloyd (Swydd Gaerhirfryn, 9.2%) yn ail a Richard Hadlee (Swydd Nottingham, 8.5%) yn drydydd.

Fe wnaeth e drechu Majid Khan a Waqar Younis o Bacistan a’r Awstraliad Michael Kasprowicz ym mhôl Morgannwg, a’i gydwladwr Joel Garner, yr Awstraliad Bill Alley ac Alfonso Thomas o Dde Affrica ym mhôl Gwlad yr Haf.