Mae Marathon Eryri wedi cael ei ohirio tan 2021.

Daw’r cyhoeddiad wedi i Iron Man Cymru 2020 a Hanner Marathon Caerdydd 2020 hefyd gael ei ohirio eleni oherwydd y coronafeirws.

Roedd disgwyl i Farathon Eryri gael ei chynnal ar Hydref 24 eleni, ond mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi mai Hydref 30, 2021 fydd y dyddiad newydd.

Dywedodd trefnwyr Marathon Eryri: “Gyda chalonnau trwm iawn rydym wedi penderfynu gohirio Marathon Eryri.

“Yn absenoldeb unrhyw ganllawiau penodol, mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i ni.

“Ond oherwydd yr amser ansicr iawn yma rydym yn teimlo bod ein rhedwyr yn haeddu gwybod un ffordd neu’r llall.

“Mae’n anodd iawn rhagweld pryd bydd chwaraeon torfol yn dychwelyd, ac mae hyd yn oed yn anoddach ceisio dyfalu be’ fydd y sefyllfa fis Hydref.

“Ein blaenoriaethau yw diogelwch ein rhedwyr a diogelwch ein cymuned a chredwn mai peidio cynnal y digwyddiad eleni yw’r peth gorau i’w wneud.”

Er nad oes modd cael ad-daliad bydd yr holl redwyr a gofrestrwyd ar gyfer y ras eleni yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r ras y flwyddyn nesaf.

Ras rhithiol Eryri

Mae Marathon Eryri hefyd wedi cyhoeddi bydd y trefnwyr yn amlinellu manylion ras rhithiol Eryri yn fuan.

Bwriedir cynnal y ras yn ystod wythnos y digwyddiad gwreiddiol fis Hydref.