Prin yw’r gemau ugain pelawd cyffrous sydd wedi bod yng Nghaerdydd rhwng Morgannwg a Chaint, y tîm y bydden nhw wedi bod yn eu herio yng Ngerddi Sophia heddiw (dydd Mercher, Mehefin 10) oni bai am y coronafeirws.
Ond mae un sy’n sefyll allan, a honno bron yn un hanesyddol i David Lloyd, y chwaraewr amryddawn o Wrecsam, a ddaeth o fewn trwch blewyn i’r canred ugain pelawd cyflymaf erioed i’r sir yn 2016.
Roedd y tymor hwnnw wedi bod yn drobwynt yn ei yrfa gymharol newydd, ac yntau wedi taro’i ganred cyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf wrth herio Prifysgolion Caerdydd yr MCC yng ngêm gynta’r tymor, cyn mynd yn ei flaen i daro canred yn erbyn Caint a Sussex yn y Bencampwriaeth.
Ond ei 97 heb fod allan yn y gêm ugain pelawd hon sy’n sefyll allan o’r tymor hwnnw, ac yntau wedi sgorio’r rhediadau yn erbyn y ffactorau oddi ar 49 o belenni.
Cyd-destun y gêm
31 oedd sgôr gorau blaenorol y Cymro mewn gemau ugain pelawd ond roedd e’n cael modd i fyw ar ôl cael ei ddyrchafu i agor y batio yn fformat byrra’r gêm.
Daeth y batiad hwn wythnos yn unig ar ôl taro hanner canred, ei gyntaf mewn gêm 50 pelawd, yn erbyn yr un gwrthwynebwyr, ac fe ddaeth ar yr adeg iawn i Forgannwg wrth iddyn nhw godi i frig y tabl yn sgil y fuddugoliaeth swmpus.
Dechrau digon sigledig gafodd y sir Gymreig, serch hynny, wrth golli’r capten Jacques Rudolph yn nhrydedd belawd y gêm.
Roedden nhw’n 12 am un pan ddaeth Colin Ingram i’r llain, a hwnnw wedi sgorio 95 heb fod allan ac 85 yn ei ddau fatiad blaenorol cyn sgorio 60 mewn partneriaeth o 132 gyda’r gogleddwr. Daeth hanner canred Ingram oddi ar 21 o belenni.
Ond prin oedd y batwyr eraill sgoriodd y diwrnod hwnnw, ac roedd yn rhaid i Forgannwg fodloni ar 175. Heb gyfraniad Lloyd ac Ingram, fe fyddai wedi bod yn dlawd iawn arnyn nhw’r diwrnod hwnnw ac fe allai’r ymgyrch fod wedi dod oddi ar y cledrau yn y fan a’r lle.
Byddai un ergyd arall wedi sicrhau lle i David Lloyd yn y llyfrau hanes.
Ond fel yr oedd hi, roedd y nod yn ormod i Gaint wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 121 o fewn un belawd ar bymtheg, ac fe arhosodd Morgannwg ar frig y tabl am gyfnod, cyn gorffen yn ail y tu ôl i Swydd Gaerloyw yn y pen draw.
Roedd cryn edrych ymlaen wedyn at gêm yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Swydd Efrog, a’r dorf yn obeithiol o wireddu’r potensial oedd wedi bod yn amlwg yn y tîm ers tro.
Ond nid felly y bu, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 90, ac roedd yn rhaid aros am dymor arall cyn y bydden nhw’n ennill eu lle teilwng yn Niwrnod y Ffeinals.