Fe fydd timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd yn herio’i gilydd mewn gêm gyfeillgar cyn i dymor y Bencampwriaeth ailddechrau.

Ond mae’r clybiau’n gwrthod dweud ym mle fydd y gêm yn cael ei chynnal, yn sgil rheolau sy’n atal torfeydd rhag mynd i gemau oherwydd y coronafeirws.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Mehefin 13).

Mae’n gyfle olaf i’r timau baratoi ar gyfer eu gemau cyntaf yn ôl yn y Bencampwriaeth yr wythnos ganlynol, wrth i’r Elyrch deithio i Middlesbrough ar Fehefin 20, cyn i’r Adar Gleision groesawu Leeds y diwrnod canlynol.