Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi er cof am Huw Roberts, Llangefni – telynor, ffidlwr ac athro gwerin dylanwadol.
Daeth yn adnabyddus iawn am chwarae’r ffidil a’r delyn deires, a bu’n aelod o grwpiau gwerin Cilmeri a Pedwar yn y Bar. Roedd hefyd yn hanesydd, ac yn awdur.
Bu yn athro ysgol ac hefyd yn addysgu y tu allan i’r stafell ddosbarth wrth ei waith yn trosglwyddo’r traddodiadau mewn gweithdai gan Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru, Clera a Trac.
Roedd â dawn i ddysgu offerynnau yn rhwydd ac aeth ati i feistroli’r delyn deires, ac ymddiddori yn ei hanes cyfoethog hi. Yn 2000 cyhoeddodd lyfr dwyieithog am delynorion Llannerchymedd ar y cyd â’r telynor Llio Rhydderch, Telynorion Llannerch-y-medd: Teulu’r Britannia ac Eraill.
A’r llynedd fe drefnodd arddangosfa yn amgueddfa Oriel Môn yn olrhain hanes tair telyn deires oedd â chysylltiadau cryf â’r ynys. Ef oedd berchen ar un, telyn ‘Cefn Mably’ a oedd wedi ei gwneud gan Basset-Jones, ac wedi cael ei rhoi yn wobr gyntaf yn Eisteddfod y Fenni 1848 gydag enw’r telynor buddugol, Edward Jones, wedi’i ysgythru arni.
Roedd hefyd yn aelod o Ddawnswyr Môn a sefydlodd bartïon dawns Ffidl Ffadl a Dawnswyr Bro Cefni ar Ynys Môn.
Ymddiddorai’n fawr yn y wisg Gymreig, ac roedd ganddo gasgliad helaeth o ddillad traddodiadol – sawl betgwn o Sir Aberteifi o tua chanol y 19eg ganrif, chwe het uchel wreiddiol, dwsin o siolau paisley, gwasgodau dynion a chlocsiau. Cafodd wisgoedd wedi’u gwehyddu yn seiliedig ar yr hen ddillad – treuliodd oriau ei hun yn copïo patrymau gwisgoedd Llanofer (roedd Arglwyddes Llanofer yn un o’r hyrwyddwyr pennaf y delyn deires fel offeryn cenedlaethol Cymru yn yr 19eg ganrif), a bratiau Ynys Môn sydd yn amgueddfa Bangor.
Yn 2006 cyhoeddodd lyfr o’r enw Pais a Becon, Gŵn Stwff a Het Silc am hanes y wisg Gymreig ym Môn yn y 19eg ganrif. Credai nad oedd fawr ddim wedi bod rhwng dau glawr ers degawdau maith, ers ysgrifau Iorwerth Peate, sefydlydd Amgueddfa Werin Sain Ffagan, yn y 1950au, a llyfr Ken Ethridge, Welsh Costume (1977).
Yn eu teyrnged ar Facebook, dywedodd y grŵp gwerin Calan bod “colli Huw yn golygu ffarwelio ag un o gewri gwreiddiol ein byd, cerddor y bydd ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.” Dywedodd Ywain Myfyr, un o’i gyd-aelodau yn y grŵp Cilmeri, mewn teyrnged ar wefan Cymru Fyw: “Mae gennym fel cenedl ddyled fawr i Huw. Bydd ei gyfraniad fyw am byth tra bydd cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru.”
Gŵyl Cerdd Dant yn denu’r ifanc
Dros y penwythnos cafodd yr Ŵyl Cerdd Dant ei chynnal yn yr Wyddgrug – roedd arni’r is-deitl ‘Gŵyl Aled’ am ei bod yn cael ei chynnal er cof am un o gewri cerdd dant cyfoes, Aled Lloyd Davies.
Un o’r uchafbwyntiau bob blwyddyn yw’r gystadleuaeth Côr Cerdd Dant Agored sy’n cloi’r cystadlu. Yr enillwyr eleni oedd Côr yr Heli, Pwllheli, gyda Chôr Glanaethwy yn ail, a Chôr Cerdd Dant Ieuenctid Tair Sir yr Hen Glwyd yn rhannu’r drydedd wobr gyda Meibion Marchan, Dyffryn Clwyd. Enillwyr y Côr Alaw Werin Agored oedd Côr Rhuthun (Côr Esceifiog yn ail a Chôr Glanaethwy yn drydydd).
Wrth gloi’r ŵyl dywedodd John Eifion, Trefnydd yr Ŵyl, ar S4C: “Mae’n du hwnt o braf bod y bobol ifanc yn cymryd diddordeb mewn cerdd dant ac yn ein diwylliant cynhenid draddodiadol Gymreig ni. Mae’n bwysig i hynny ddigwydd.”
Ategwyd hynny yn y stiwdio gan y sylwebydd Ceri Haf Roberts: “Mae’r braf meddwl bod y grefft mewn dwylo diogel am flynyddoedd i ddod…” Dywedodd y prif gyflwynydd Nia Roberts: “Mae hi’n reit saff. I mi, pobol ifanc sy’ mewn gwirionedd wedi bod ar y llwyfan drwy’r dydd heddiw.”
“Mae yna egni ffres yma,” meddai’r sylwebydd Steffan Rhys Hughes wedyn. “Mae’n braf gweld pobol o bob oed yn mwynhau, ond mae o’n rhoi teimlad o gynhesrwydd bod pobol ifanc yn mwynhau cerdd dant… Nhw fydd y gosodwyr a’r hyfforddwyr nesa’ ac yn parhau i ganu am y degawdau i ddod.”
Talodd Steffan deyrnged i bwyllgor a phobol leol yr Wyddgrug a’r cylch ar yr Ŵyl Cerdd Dant eleni, gan ddweud: “Maen nhw wedi cofleidio a pherchnogi’r ŵyl, ac mae yna hoel meddwl mawr ar y darnau gosod yma. Mae yna gysylltiadau arbennig yn lleol felly maen nhw wedi gwneud gwaith arbennig iawn.”