Mae’r Donald yn dew ar dudalennau Golwg yr wythnos hon, gyda’r darpar Arlywydd yn profi eto fyth mai ef yw’r dyn mwya’ dadleuol ar y blaned.
Does neb yn ein huno yn ein hanghytuno cweit fel Y Dyn Oren.
Yn ogystal â phump o’n colofnwyr yn trafod taith Yr Orenfab yn ôl i’r Tŷ Gwyn, rydan ni wedi derbyn ac yn cyhoeddi llythyrau o blaid ac yn erbyn ei fuddugoliaeth drawiadol.