Bellach mae Carwyn Ellis a Rio 18 yn mynd allan i berfformio fel triawd, Carwyn, Elan Rhys a Baldo Verdú. A hwythau newydd gwblhau taith aeth a nhw i Gaerdydd, Aberystwyth, Manceinion, Llundain a Bethesda, does dim dwywaith fod y band yn gweithio fel uned lai. Es i draw i’w gweld yn Neuadd Ogwen a mwynhau pob eiliad. Ar y noson roedd traciau fel ‘She’s in LA’ yn sefyll allan – a hynny oherwydd y Latin groove pendant dawnsiadwy.
Cyflwynwyd trac newydd hefyd, cân o’r enw ‘Hei Ti’, ac ar y gwrandawiad cyntaf fy nheimlad oedd fod y groove yn un naws Disgo – sydd yn gorfod bod yn beth da. A dyna’r peth hefo Rio 18, mae rhywun jest angen ymgolli yn y groove. Wrth gyrraedd adre a meddwl faint o athrylith ydi Carwyn, dyma chwilio am rhai o’i sioeau ar Soho Radio a threulio nos Sadwrn pleserus yn gwrando ar A Word with Carwyn Ellis. Dewis thema mae Carwyn gyda’r caneuon neu’r artistiaid yn adlewyrchu hynny. Y sioe wrandewais arni oedd ‘Tango’.
Y penwythnos cynt cefais wahoddiad gan Tamsin o Theatr Mwldan i fynd lawr i ŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi. Y tro cyntaf i mi fod yno. Tebyg mewn ffordd i wyliau fel Focus Wales, Gŵyl Arall neu Gŵyl y Gwyniaid yn yr hen ddyddiau – lle mae artistiaid yn perfformio mewn gwahanol leoliadau o amgylch y dre. Heb os roedd dewis Capel Bethania fel un o’r lleoliadau ar gyfer y gigs mwy acwstig yn ddewis ysbrydoledig.
Ar y nos Iau dyma fynd draw i wrando ar Lleuwen a’i sioe Emynau Coll y Werin sydd wedi datblygu yn aruthrol ers mi weld Lleuwen yn Eglwys Llangian yn gynharach eleni. Wrth wrando dyma feddwl pa mor bell rydan ni wedi teithio ers dyddiau’r pedwar hogyn a gitâr mewn band. I feddwl fod ni yn gwrando ar Lleuwen yn cyd-ganu gyda lleisiau’r hen bregethwyr o ddechrau’r ugeinfed ganrif – a hynny mewn capel.
Efallai i chi glywed fod James Dean Bradfield o’r Manics wedi canu yn y Gymraeg yn fyw am y tro cyntaf yn Eglwys Santes Fair ar y nos Wener. Cafwyd sylw ar Newyddion S4C i hyn. Da iawn James. Parch! Ar yr un noson cafwyd set fendigedig gan Georgia Ruth. Rhwng Georgia a James mae rhywun yn gorfod sân am safon ‘World Class’. Eto gwych cael bod yno yn gwrando.
Hefyd yn perfformio hefo Georgia a James roedd y gantores Fabiana Palladino. Rŵan ta, rydan ni yn gwybod am ei thad, sef y basydd Pino Palladino o Gaerdydd – a’r cerddor sydd yn bennaf gyfrifol am y weledigaeth ar albym Dawnsionara Endaf Emlyn. I ni ddilynwyr Pop Cymraeg mae Pino yn hawlio ei le yn oriel y cerddorion sydd â pharch mawr iddynt. Fwy felly am chwarae hefo Endaf na chwarae bas i The Who – medda Mr Mwyn! Felly roedd gennyf ddiddordeb mawr gwrando ar Fabiana. Tydi hi byth yn deg sôn am rieni rhywun wrth drafod artist. Er bod hynny yn faith. Roedd Fabiana yn wych – stwff Soul cyfoes a band arbennig.