Felly mae Donald Trump yn ei ôl i darfu ar ein bywydau am bedair blynedd arall. Bydd y cwest i sut digwyddodd hyn yn para misoedd os nad blynyddoedd, ond mae un peth yn sicr – roedd hi’n fuddugoliaeth swmpus a diamheuaeth i’r cyn-Arlywydd. Doedd yna ddim amwyster yn newis UDA. Roedd ei fuddugoliaeth yn llwyr a’r gogwydd ato ymhob rhan o’r wlad ac ymhlith pob demograffeg. Y cwestiwn syml ydi, pam?

Mae’r atebion i hynny am fod yn rhai anodd eu clywed, ond eu gwyntyllu sydd raid.