Pa mor aml fyddwn ni’n dweud ‘Diolch’? Ac efallai yn bwysicach byth, wrth bwy fyddwn ni’n dweud ‘Diolch’? Gwrando ar drafodaeth ar y radio’r oeddwn i am bwy oedd yn credu ei bod yn bwysig gadael tip i’r glanhawyr ystafelloedd mewn gwestai. Job ddigon diddiolch ac eto job lle fyddai pobl ddigon parod i gwyno petai blewyn o’i le. Ta waeth, rhyw ymateb cymysg oedd i’r drafodaeth radio, ond fod y person gododd y pwynt yn cydnabod fod angen gwerthfawrogi ymdrechion y glanhawyr.