Mae ffermwr gwartheg a defaid o ogledd Cymru wedi ei ailethol yn Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

Bu Glyn Roberts yn y swydd ers 2015.

Yn ei amser fel Llywydd, mae wedi helpu i sicrhau Cyllid Ffermio Teg i amaethwyr yng Nghymru.

Mae hefyd wedi rhoi pwyslais ar bwysigrwydd amaethyddiaeth mewn cymunedau gwledig ac ar y Gymraeg yn ogystal â hyrwyddo #AmaethAmByth.

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael gwasanaethu fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru a diolchaf i’n haelodau am ymddiried ynof am dymor arall,” meddai Glyn Roberts.

“Mae’n gyfnod ansicr iawn i’n diwydiant. Mae ein sector yn delio ag ôl-effeithiau’r Coronafirws, mae Brexit a’n perthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yn parhau i fod yn ansicr ac mae yna lawer o faterion ffermio eraill, megis rheoliadau dŵr, polisïau fferm y dyfodol a TB, sydd angen sylw a’i datrys dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

“Wrth symud yr Undeb hon ymlaen, rydym am barhau i hyrwyddo ac amddiffyn ffermydd teuluol Cymru, yn genedlaethol ac yn unigol, er mwyn diogelu ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yma yng Nghymru, a dyna’n gweledigaeth bob amser – a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein ffermwyr i ffermio.”