Mae dwsinau o deithwyr wedi cyrraedd Maes Awyr Caerdydd er mwyn hedfan i Malaga, er gwaethaf cyngor Llywodraeth Cymru.

Yr awyren bore ddydd Gwener (Gorffennaf 3) oedd y gyntaf i adael Caerdydd ers dechrau’r cloi mawr.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw ar Ryanair i beidio hedfan i Sbaen, tra’r oedd cyfyngiadau teithio pum milltir yn dal i fod mewn grym yng Nghymru.

Mae’n debyg y bydd y cyfyngiadau yma’n cael eu llacio ddydd Llun (Gorffennaf 6).

Bydd ail awyren Ryanair yn hedfan i Faro ym Mhortiwgal heno.

“Nid ydym yn credu y dylai’r hediadau yma fynd yn eu blaen,” meddai Llywodraeth Cymru.

Ond mae Ryanair wedi mynnu y bydd “cannoedd o bobol Gymreig” yn dychwelyd o wledydd sydd â graddfa R is na’r Deyrnas Unedig.