“Mae delio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn brofiad shambolig,” yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Daeth sylw Mark Drakeford yn ystod cynhadledd i’r wasg lle cadarnhaodd y byddai cyfyngiadau teithio yn cael eu llacio yng Nghymru.
Yn ystod y sesiwn, cododd sawl cwestiwn ynghylch cynlluniau i ganiatáu ymweliadau di-rwystr i’r Deyrnas Unedig o dramor – mae disgwyl cyhoeddiad rhestr o wledydd cymwys yn ddiweddarach.
Datgelodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi derbyn ychydig iawn o eglurder gan Lywodraeth San Steffan ynghylch y mater, a rhannodd ei farn yn ddi-flewyn ar dafod.
“Mae delio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn brofiad shambolig,” meddai. “Dyma enghraifft o wneud cyhoeddiad cyn penderfynu beth mae’n ei olygu.
“A ddydd ar ôl ddydd rydym wedi ceisio cael ateb synhwyrol wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch sut y byddan nhw’n gwneud y newidiadau yma, a pha wledydd sy’n cael eu heffeithio.
“Ac mae’n rhaid i mi ddweud, mae wedi bod yn amhosib i’w ddilyn. Wrth i mi sefyll fan hyn, does dim syniad gyda ni pryd fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei gyhoeddi…
“Dyma sefyllfa lle mae gennych chi lywodraeth sydd methu dod at benderfyniad, heb sôn am gyfathrebu yn synhwyrol â’r llywodraethau datganoledig.”
Dilyn rheolau Lloegr
Ers mis Mehefin mae’r rheiny sydd wedi bod yn teithio i’r Deyrnas Unedig o dramor wedi gorfod treulio cyfnod dan gwarantin ar ôl cyrraedd.
Bellach mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cadarnhau y bydd 50 gwlad gan gynnwys Ffrainc, Sbaen a’r Almaen yn eithriadau i’r drefn yma.
Mae Mark Drakeford wedi dweud ei bod yn debygol iawn y byddai Cymru yn dilyn pa bynnag reolau y bydd yn cael eu cyflwyno yn Lloegr. Dyw Cymru ddim â phwerau tros ffiniau.