Traean o dafarnau, bariau a bwytai canol dinas Newcastle fydd yn ail-agor yfory.
Mae sawl tafarn wedi dweud nad ydyn nhw am frysio i ail-agor eu drysau ar yr hyn sy’n cael ei alw yn ‘Super Saturday’ yn Lloegr.
Yr ofn yw y bydd hi’n “anhrefn llwyr” wrth i yfwyr gael blasu eu peint cyntaf o bwmp tafarn am y tro cyntaf ers misoedd.
Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi galw ar bobol i ymddwyn yn gall.
Fydd y Tyne Bar ddim yn ail-agor ar y cyfle cynta’ posib y dydd Sadwrn yma.
Dywedodd perchnogion y bar ar wefan trydar: “Wedi dwys ystyried yn ofalus, rydym wedi penderfynu peidio rhuthro i ail-agor ar y pedwerydd o Orffennaf.
“Rydym yn wirioneddol bryderus y gallai fod yn ddiwrnod o anhrefn llwyr i’r diwydiant tafarnau…”
Mae Heddlu Northumbria wedi galw ar bobol i yfed yn gall.