Mae undebau iechyd wedi galw am godiad cyflog buan i nyrsys, parafeddygon a glanhawyr y Gwasanaeth Iechyd heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 3).
Mae’r 14 undeb, gan gynnwys Unsain a’r GMB, wedi ysgrifennu at y Canghellor Rishi Sunak a’r Prif Weinidog Boris Johnson yn galw ar drafodaethau tâl i ddechrau’n fuan er mwyn i staff allu cael codiad cyflog cyn diwedd y flwyddyn.
Daw hyn wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i gofio pawb sydd wedi marw yn sgil y coronafeirws a dathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 72 oed dros y penwythnos.
Mae gweithwyr iechyd yn agosáu at ddiwedd cytundeb tâl tair blynedd ac yn ôl yr undebau, byddai codiad cyflog yn helpu staff i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ar ôl y pwysau enfawr maen nhw wedi wynebu dros y misoedd diwethaf.
Maen nhw hefyd yn dadlau y byddai codiad cyflog yn arwain at hwb i’r economi wrth i weithwyr iechyd wario eu harian ychwanegol ar y stryd fawr.
Dywed yr undebau na ddylai gweinidogion weld yr apêl am godiad cyflog cynnar fel bonws coronaferiws.
“Roedd y cymeradwyo a geiriau caredig yn gysur mawr i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn nyddiau anodd y pandemig. Ond nawr mae’n rhaid i’r llywodraeth ddangos eu gwerthfawrogiad mewn ffordd wahanol,” meddai pennaeth iechyd Unsain, Sara Gorton.
“Drwy gydol y cloi mawr, mae’r cyhoedd wedi gweld ymrwymiad staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac yn disgwyl iddyn nhw gael eu gwobrwyo.
“Wrth i’r clapio ddychwelyd y penwythnos hwn i ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gall gweinidogion ddangos eu bod yn gwerthfawrogi staff iechyd drwy ymrwymo i godiad cyflog cynnar y mae’r wlad i gyd yn cefnogi”.