Mae’r heddlu yn apelio am dystion wedi i ddyn gyda “bol mawr a het wellt” ddinoethi yn gyhoeddus.

Digwyddodd hyn ar lan afon Gwy ger y Gelli Gandryll, mewn ardal lle mae pobol leol yn hoffi trochi a nofio.

Mae lle i gredu bod y dyn rhwng 40 a 45 oed, yn denau ond gyda bol mawr, ac yn welw.

Digwyddodd y dinoethi anweddus ar ddydd Iau, Mehefin 25, ac mae’n debygol bod llawer o bobol wedi ymweld â’r lan yn ystod y dydd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i ffonio 101.