Mae’r rhaglen deledu boblogaidd Rownd a Rownd wedi cael ei beirniadu gan un o’i gwylwyr, sy’n codi cwestiynau am gywirdeb stori am drawsblaniad.

Mae Mali Elwy, 19, o Danyfron ger Llansannan yn disgwyl am drawsblaniad aren ac yn dweud nad yw’r stori ar Rownd a Rownd yn cyfleu delwedd realistig o’r sefyllfa.

Yn yr opera sebon mae cymeriad 15 oed yn ymchwilio i’r posibilrwydd o roi aren i’w chwaer fach – mae yn rhaid bod yn 18 oed i wneud hynny.

Aeth Mali Elwy ar ei chyfrif Trydar i leisio ei rhwystredigaeth am y sefyllfa.

“Dw i yn ffan massive o Rownd a Rownd, ond dwi ddim yn teimlo bo’ nhw yn cyfleu’r profiad o gael trawsblaniad aren yn iawn o gwbl,” meddai Mali Elwy wrth y BBC.

Roedd Mali Elwy i fod i gael trawsblaniad aren gan ei brawd ym mis Awst, ond cafodd y driniaeth ei gohirio yn sgil pandemig y coronafeirws.

Mae cynhyrchwyr Rownd a Rownd bellach wedi ymddiheuro gan ddweud mewn datganiad: “Gwyddom fod oblygiadau dwys i unigolion yn y byd go-iawn ac roedd yn fwriad gennym o’r dechrau i amlygu sefyllfa anffodus nifer fawr o blant a phobl ifanc sy’n disgwyl am arennau newydd.

“Gobeithio y gallwn redeg stori gyffelyb arall yn y dyfodol sydd o safbwynt person yn disgwyl am drawsblaniad ac y byddwn yn gallu portreadu’r sefyllfa honno yn sensitif a chredadwy.”