Mae arweinwyr crefyddol Cymru wedi rhybuddio y bydd pobol dlotaf y byd yn dioddef yn sgil penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ail strwythuro’r ffordd maen nhw yn darparu cymorth i wledydd tlawd.

Daw hyn wedi i’r Adran Datblygu Rhyngwladol ddod yn rhan o’r Swyddfa Dramor.

Mae arweinwyr crefyddol Cymru wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud y bydd yn arwain at Brydain yn rhoi llai o gymorth i wledydd tlawd.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog Boris Johnson, maen nhw wedi galw’r uno rhwng yr Adran Datblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Dramor yn “gam yn ôl”.

Mae’r llythyr wedi  ei arwyddo gan Archesgob Cymru ac arweinwyr eglwys eraill yn ogystal â’r elusen Cymorth Cristnogol.

Maen nhw yn annog y Prif Weinidog i ail ystyried neu i sicrhau bod egwyddorion ac uniondeb yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn cael eu gwarchod.

“Mae cymunedau ag eglwysi Cymru wedi cefnogi’r ymdrech datblygu rhyngwladol mewn partneriaeth â Chymorth Cristnogol ers 75 mlynedd,” meddai’r arweinwyr yn eu llythyr at y Prif Weinidog.

“Mae’n siomedig iawn ein bod yn colli’r partner hwn ac rydym yn credu y bydd pobol dlotaf y byd yn dioddef os yw gwaith datblygu rhyngwladol yn cael ei israddio”.

Tra bod pennaeth dros dro Cymorth Cristnogol Cymru, Cynan Llwyd wedi dweud: “Rydym wedi ein siomi o glywed penderfyniad llywodraeth San Steffan, yn enwedig mewn cyfnod mor beryglus i gymunedau tlotaf y byd yn sgil Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd.

“Mae’r Adran Datblygu Rhyngwladol wedi bod yn bartner pwysig yn y frwydr yn erbyn tlodi rhyngwladol dros y blynyddoedd.

“Rydym yn credu bod yr holl waith da yma nawr mewn perygl yn sgil penderfyniad di-hid Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.