Mae cwestiynau wedi codi ar gyfryngau cymdeithasol wedi i Blaid Cymru bleidleisio â Phlaid Diddymu’r Cynulliad yn erbyn cais gan Neil McEvoy i fuddsoddi mewn cyrsiau trochi Cymraeg.

Ddydd Mercher wnaeth y Blaid gyflwyno cynnig a oedd yn galw bod cwricwlwm newydd Cymru yn rhoi sylw i hanes Cymru, a hanes pobol BAME (du, Asiaidd, lleiafrif ethnig) y wlad hon.

Roedd y cynnig hefyd yn galw bod y cwricwlwm newydd “yn cefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg”.

Cynigodd Neil McEvoy, Aelod o’r Senedd a chyn-aelod Plaid Cymru, dri gwelliant ac un o’r rheiny oedd bod yna fuddsoddiad yng “nghyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg”.

Mi bleidleisiodd Plaid Cymru, y Blaid Lafur, UKIP, a Gareth Bennett – o Blaid Diddymu’r Cynulliad – yn erbyn y gwelliant yma. Pleidleisiodd Neil McEvoy, y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit o’i blaid.

Methodd y gwelliant ynghyd â dau welliant arall Neil McEvoy, ac mae yntau wedi ymateb yn chwyrn i ddiffyg cefnogaeth Plaid Cymru. Mae hynny yn ei dro wedi esgor ar drafodaeth ar-lein.

Ymateb Neil McEvoy

Codi cwestiynau

Cynnig Plaid Cymru

Yn y pendraw mi basiodd cynnig Plaid Cymru gydag ambell welliant gan Lafur a oedd, mewn gwirionedd, yn atseinio hanfod y cynnig gwreiddiol.

Fe basiodd fwyafrif yn y Senedd “y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg”.

Cafodd Neil McEvoy ei wahardd o Blaid Cymru yn 2018 am dorri ei rheolau sefydlog, a dyw’r ddwy ochr ddim ar delerau da.

Mae yntau wedi sefydlu plaid o’r enw Welsh National Party (WNP), neu’r Blaid Genedlaethol. Mae enw’r blaid hon yn destun ffrae rhyngddo ef a Phlaid Cymru.

Ymateb y Blaid

Pan ofynnodd golwg360 i Blaid Cymru pam na wnaethon nhw gefnogi gwelliant Neil McEvoy, yn galw am fuddsoddiad yng “nghyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg”, fe gawson ni’r ymateb canlynol:

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn arwain galwadau i’r cwricwlwm newydd sicrhau hawl a haeddiant ein holl ddisgyblion i’w rhuglder yn y Gymraeg, ac wedi lleisio gwrthwynebiad i’r perygl y gallai cynigion presennol Llywodraeth Cymru i wneud y Saesneg yn iaith ddiofyn yn y cyfnod sylfaen niweidio’r llwyddiannau sydd wedi bod mewn addysg drochi yn siroedd Gwynedd, Ceredigion, Ynys Môn, Sir Gar a thu hwnt.

“Dyna oedd sail y cynnig cadarn ddaeth Plaid Cymru gerbron ddydd Mercher yn y Senedd.

“Mae angen sicrhau bod cefnogaeth bwrpasol, gan gynnwys buddsoddiad wrth gwrs, i feithrin sgiliau iaith y gweithlu addysg ac mae Plaid Cymru am weld hynny wedi’i osod mewn deddfwriaeth ar y maes addysg yn ei gyfanrwydd.

“Yr haf diwethaf, cyhoeddodd Plaid Cymru gynigion manwl o’r fath wedi’u llunio gan yr arbenigwr Gareth Pierce ar gyfer darn o ddeddfwriaeth gynhwysfawr fydd yn sicrhau bod gan ein dinasyddion y cyfle i feithrin a datblygu sgiliau yn y Gymraeg ar bob lefel, yn ogystal â’r hawl i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, waeth bynnag eu hoedran neu gefndir. Byddwn ni’n dod â deddfwriaeth o’r fath yn ystod 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru ym Mai 2021.”