Mae BBC Radio Cymru a Chymru Fyw wedi cyhoeddi enwau Llywyddion y Dydd Gŵyl AmGen.
Daw hyn yn sgil eu hymrwymiad i ehangu’r cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 30 ag Awst 2, pan oedd Eisteddfod Tregaron i fod i gael ei chynnal.
Bydd yn cynnwys dramâu, cyngherddau a seremonïau yn ogystal â rhaglenni dogfen a cherddoriaeth.
Y Llywyddion
Mae Toda Ogunbanwo wedi cael ei ddewis i gyflwyno anerchiad ar donfeddi Radio Cymru ac ar Cymru Fyw ddydd Gwener (Gorffennaf 31).
Symudodd Toda Ogunbanwo, 20, i Benygroes o Harlow yn Essex pan oedd yn 7 mlwydd oed.
Mae bellach yn astudio ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain ac yn gobeithio dod yn hyfforddwr chwaraeon yn y dyfodol.
A Seren Jones fydd yn cyflwyno ddydd Sadwrn (Awst 1).
Mae Seren yn ohebydd, cyflwynydd a chynhyrchydd ac yn gweithio yn News Podcast Unit y BBC yn Llundain.
Mae hi hefyd yn un o gyd-sylfaenwyr The Black Swimmers Association, sef elusen a sefydlwyd i dynnu sylw at bwysigrwydd nofio i achub bywydau, ac annog mwy o bobl mewn cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i ddysgu sut i nofio.
“Dwi’n falch iawn bo fi am gael cyfle i siarad yn yr ŵyl,” meddai Toda Ogunbanwo.
“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig clywed lleisiau gwahanol a phrofiadau pobl Cymraeg o gefndiroedd gwahanol.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gael dangos i bobl ychydig bach am bwy ydw i, a hefyd cael dysgu fy hun o glywed pobl eraill”.
Dywedodd Seren Jones: “Dwi wir yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr Ŵyl AmGen eleni, ac mae’r pwnc o hil yng Nghymru yn un mae cymunedau Cymreig angen wynebu.
“Does ’na ddim un math o Gymro Cymraeg yn bodoli rhagor – ac mae angen i ni gwestiynau beth mae bod yn Gymraeg yn meddwl a sut mae’n bod yn Gymraeg yn effeithio ar ein hunaniaeth.”