Mae’r BBC wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared ar oddeutu 450 o swyddi yn Lloegr.

Dywed y darlledwr bod yn rhaid i BBC Lloegr arbed £25 miliwn erbyn diwedd mis Mawrth 2022.

Mae hyn yn dilyn y newyddion bod cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies wedi rhoi gwybod i staff bydd rhaid cwtogi tua 60 o swyddi erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf yn sgil y coronafeirws.

Roedd gan y BBC darged o arbed £800 miliwn cyn i bandemig y coronafeirws arwain at £125 miliwn yn fwy o ddiffygion ariannol.

“Dwi’n falch bob pobol wedi troi atom ni mewn niferoedd enfawr ar gyfer newyddion a gwybodaeth yn ystod Covid-19, gan brofi pwysigrwydd ei gwasanaethau lleol a rhanbarthol,” meddai cyfarwyddwr BBC Lloegr, Helen Thomas.

“Ond ychydig iawn sydd wedi newid ers i’r gwasanaethau gael eu creu dros 50 mlynedd yn ôl ac mae angen ailstrwythuro sylweddol.

“Mae hynny wedi golygu gorfod cymryd camau anodd”.