Mae Duffy, y gantores o Nefyn, wedi beirniadu penderfyniad Netflix i ddangos ffilm mae hi’n ei ddweud sy’n “rhamantu realiti creulon masnachu rhyw, herwgipio a threisio”.
Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd Duffy wedi datgelu iddi gael ei threisio a’i chadw’n gaeth dan ddylanwad cyffuriau am rai diwrnodau.
Mewn llythyr i brif weithredwr y cwmni, Reed Hastings, dywedodd Duffy fod penderfyniad y cwmni i ddangos y fil 365 Days yn “anghyfrifol”.
Mae’r ddrama Bwyleg, sydd wedi cael ei chyfarwyddo gan Barbara Bialowas a Tomasz Mandes, yn dilyn dynes ifanc o Warsaw sy’n gael ei chadw’n gaeth gan ddyn o Sicily, ac mae wedi cael ei gymharu â 50 Shades Of Grey.
“Mae 365 Days yn rhamantu realiti creulon masnachu rhyw, herwgipio a threisio,” meddai’r gantores.
“Ni ddylai hyn fod yn syniad neb o adloniant, a ni ddylai gael ei ddisgrifio na ei hysbysebu fel adloniant.
“Alla i ddim dychmygu sut y gallai Netflix anwybyddu pa mor ddi-hid, ansensitif a pheryglus ydi hyn”.
Neges bersonol
Fis Ebrill, cyhoeddodd Duffy ar ei thudalen Instagram iddi gael ei drygio mewn bwyty ar ddiwrnod ei phen-blwydd cyn cael ei chadw’n gaeth yn ei thŷ ei hun a’i chymryd i wlad dramor.
Dywed ei bod wedi treulio blynyddoedd yn ceisio dygymod â’r profiad.
“Wrth gwrs, fe wnes i oroesi. Fe gymrodd hi amser. Does dim ffordd hawdd i ddweud hynny.
“Ond fe allai ddweud yn ystod y degawd diwethaf, ar ôl y miloedd ar filoedd o ddiwrnodau nes i dreulio eisiau teimlo’r heulwen yn fy nghalon eto, mae’r haul yn tywynnu nawr.
“Rydych yn pendroni pam wnes i ddim defnyddio fy llais i gyfleu fy mhoen? Doeddwn i ddim eisiau dangos y tristwch yn fy llygaid i’r byd.
“Gofynnais imi fy hun, sut alla i ganu o’r galon os yw e wedi torri? Ac yn araf bach, fe wellodd pethau”.