Mae curadur yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi annog pawb, “pwy bynnag ydan ni,” i gofnodi eu bywydau yn ystod y cau, i helpu haneswyr y dyfodol.

Mewn sesiwn drwy gyfrwng Zoom ar Fehefin 23, bu Pennaeth Graffeg, Sgrîn, a Sain y Llyfrgell yn sôn am y gweithiau celf yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol sydd wedi eu creu neu eu hysbrydoli gan ferched.