Mae Arweinydd Cyngor Ynys Môn yn dweud bod yr argyfwng coronafeirws wedi amlygu’r angen i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru o Lundain.

Wedi hir ymaros, daeth cadarnhad yn hwyr nos Lun gan Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, y byddai cyfyngiadau’r coronafeirws yn parhau yn ninas Caerlŷr [Leicester] oherwydd y cynnydd mewn achosion.