Mae’r ddeuawd Tapestri newydd ryddhau eu sengl gynta’, ac mae hi’n hyfryd.

Fedrwch chi ddim peidio ond ildio i swyn ‘Y Fflam’, sy’n gyfuniad breuddwydiol o biano, slide guitar, mymryn o ddryms, gitâr acwstig felodig a lleisiau llesmeiriol Lowri Evans a Sera Zyborska.

Mae’r ddwy gantores brofiadol wedi dod ynghyd i greu caneuon gwerin Americana atmosfferig, a chynnig rhywbeth ychydig bach yn wahanol i’r Sîn.