Rhedwr oedd Steff.

Rhedwr cynnar – cwpl o filltiroedd cyn brecwast, cyn i’r plant godi, cyn i’r traffig ddechrau chwyrnu ar hyd y lonydd. Dim ond awr – dwy, efallai, ar foreau Sadwrn – yn gwylio’r fro yn deffro’n araf.

Dywedai wrth Katy ei fod yn rhedeg i gadw’i feddwl yn glir, ei fod yn help iddo gael trefn ar ddechrau dydd, a dyna oedd yr unig gelwydd o fewn eu priodas. Achos yr oll y byddai Steff yn meddwl amdano wrth redeg oedd adref.