Rhyw dro, mi fydd rhaid i Senedd Cymru fynd i’r afael â gwendidau ei threfniadau ei hun.

Mewn gyrfa seneddol i’w hanghofio, efallai mai dyna fydd cyfraniad mawr Gareth Bennett, un o’r ASCau tros ranbarth Canol De Cymru.

Er bod y gystadleuaeth yn chwyrn a chaled, mae eisoes fel petai’n anelu at dorri rhyw fath o record, ar ôl llwyddo i droi ei gôt ddwywaith o fewn tymor un Senedd.