Dwi’n gw’bod bod y pandemig ddim drosto – a bo ffordd bell i fynd – ond yn tŷ ni, os nad yw hi’n teimlo fel diwedd y lockdown, ma’i o leia’n teimlo fel dechrau’r diwedd.

Ma’r ferch fach wedi mynd nôl i’r feithrinfa, welwch chi – ac felly dyma’r rhifyn cynta’ o Golwg ers y cyfyngiadau sy’ ddim wedi’i olygu i gyfeiliant Peppa Pig a Cyw. Wel, dyna oedd y bwriad ta beth.