Os ydi pawb wedi dod tros yr olygfa o Brif Weinidog Prydain yn esgus ymarfer corff, mae gan Glyn Morris neges i’w sobreiddio …
“Gallai datganiad y PW Boris Johnson ei fod ‘mor ffit â chi bwtsiwr’, wrth iddo frolio am ei iechyd ac am ei gynlluniau ar gyfer adfer economi’r Deyrnas Unedig wedi’r pandemig coronafeirws, ddod yn ôl yn gysgod trosto achos all e ddim cwympo’n ôl ar roi’r bai ar salwch am ei ffordd ddi-glem a diog o arwain.”
Efallai, wrth gwrs, mai dweud yr oedd o ei fod mor ffit â chi bwtsiwr i arwain gwlad, ond fyddai Ceidwadwyr Cymru ddim yn cytuno â John Dixon yn eu gweld nhwthau’n mentro wrth ei gefnogi …
“Gan fod mor garedig ag y galla’ i, dw i’n tybio eu bod yn credu’n ddidwyll bod Johnson yn iawn a Drakeford yn anghywir, gan fod yr holl dystiolaeth gyfredol yn awgrymu fel arall. Achos heb dybio hynna, byddai rhaid i fi gymryd, trwy alw am gopïo Lloegr, eu bod eisiau i ni gynyddu lefelau heintio a marw Cymru i fatshio rhai Lloegr… Os ydyn nhw’n anghywir, yna strategaeth etholiadol wreiddiol iawn fyddai galw ar Gymru i godi lefelau marwolaeth yn hytrach na gweithredu’n wahanol. Yn ei ffordd dawel ei hun, mae’n debyg y byddai Syr Humphrey yn eu galw’n ‘ddewr’.”
Gofyn i Gymru weithredu’n wahanol ym maes yr economi wedi’r feirws yr oedd Steffan Evans ar bevanfoundation.org, a hynny ar ôl darllen adroddiad newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree…
“Tra bod adroddiad y Sefydliad yn canolbwyntio ar rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae llawer o’r cwestiynau’n gymwys i Lywodraeth Cymru hefyd. Er enghraifft, a fydd Llywodraeth Cymru’n sicrhau ei bod yn targedu byuddsoddiadau… yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwya’, gollewin Cymru a’r Cymoedd, neu yn mynd am dargedau hawdd ar goridor yr M4 o amgylch Caerdydd? Os ydyn ni am fynd i’r afael gydag anghyfartaledd, dyma rai o’r sgyrsiau anodd y bydd rhaid eu cael…”
Ond yn ôl at y rhybuddion ac, ynghanol y sylw i bolisïau gwahanol Cymru a’r balchder yn hynny, mae Pedryn Drycin yn dweud wrth ymgyrchwyr annibyniaeth i gymryd pwyll …
“Fel yn achos Napoleon ym mrwydr Waterloo, mae ’na demtasiwn, wrth weld gwendid cynyddol Wellington ac wrth synhwyro buddugoliaeth ysgubol, i ruthro’n wyllt dros fryn dall gyda dafn olaf eich egni, ond i weld Blücher yn cyrraedd ar y gorwel â’i filoedd o filwyr ffres. Cadwch yn ffit a bocsio’n glyfar, gyfeillion. Mae ’na sawl pennod o’r hen chwedl hon i’w hadrodd o hyd.”