Mae cyn-Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn dweud bod datganoli wedi ei “oddiweddyd” ac rydym bellach yn cripian tuag at ryw led-ffederaliaeth yng ngwledydd Prydain, gyda Chymru yn llai tebygol o gymryd ordors o Lundain.
Mae Mick Antoniw yn teimlo bod yr argyfwng Covid wedi taflu goleuni tros ddiffygion y Deyrnas Unedig, ac wedi dod i’r casgliad bod datganoli ar ei ffurf bresennol yn “farw”.