Mae Duffy, y gantores o Nefyn, wedi cyhoeddi ar ei thudalen Instagram iddi gael ei threisio a’i chadw’n gaeth dan ddylanwad cyffuriau am rai diwrnodau.
Mae hi’n dweud ei bod hi “bellach yn iawn ac yn ddiogel” ond fod dod dros y profiad “wedi cymryd amser”.
Eglurodd ei bod hi eisiau cynnig esboniad i’w dilynwyr “beth oedd wedi digwydd i fi, i le’r es i a pham”.
Dywed iddi adrodd am ei phrofiad wrth newyddiadurwr dros yr haf, a’i fod e wedi bod yn “garedig”.
Dydy’r gantores 35 oed ddim wedi cyhoeddi albwm ers 2010.
Mae disgwyl iddi gyhoeddi cyfweliad ar ffurf fideo dros yr wythnosau nesaf.
Y neges
“Y gwir ydi, a plis credwch fi fy mod i’n iawn ac yn ddiogel bellach, yw y ces i fy nhreisio dan ddylanwad cyffuriau a’m cadw’n gaeth am rai diwrnodau,” meddai’r neges.
“Wrth gwrs y gwnes i oroesi.
“Fe gymerodd gryn dipyn i ddod drosto fo.
“Does dim ffordd hawdd o’i ddweud o.
“Ond mi fedra i ddweud wrthoch chi, dros y degawd diwetha’, y miloedd o ddiwrnod wnes i eu hymrwymo i fod eisiau teimlo’r heulwen yn fy nghalon eto, mae’r haul bellach yn gwenu.
“Rydych chi’n meddwl pam na wnes i ddefnyddio fy llais i egluro fy mhoen?
“Doeddwn i ddim isio dangos i’r byd y tristwch yn fy llygaid.”