Mae ymchwiliad i ymddygiad rhywiol y canwr opera Placido Domingo wedi darganfod fod mwy na dau ddwsin o fenywod wedi cwyno amdano fe, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu i’r achosion honedig ddigwydd pan oedd e’n dal swyddi uwch mewn cwmnïau opera yn Washington a Los Angeles.

Mae dau ymchwiliad ar y gweill.

Mae lle i gredu bod 55 o bobol wedi cael eu cyfweld rhwng y ddau ymchwiliad.

Clywodd yr ymchwiliad cyntaf gan 27 o bobol i gyd, ac mae’r dystiolaeth yn dangos patrwm o gam-drin a chamymddwyn dros gyfnod o ddau ddegawd.

Cafodd yr ail ymchwiliad ei gynnal gan LA Opera, lle’r oedd e’n gyfarwyddwr cyffredinol ers 2003 cyn ymddiswyddo fis Hydref y llynedd.

Dywedodd 12 yn rhagor o bobol eu bod nhw’n gwybod am enw drwg Placido Domingo neu eu bod nhw wedi bod yn dyst i’w ymddygiad.

Roedd yr ymddygiad hwnnw’n amrywio o gyffwrdd yn amhriodol i gusanu pobol, yn ogystal â gwahodd menywod i’w gartref yn hwyr yn y nos.

Roedd dau ohonyn nhw’n honni iddyn nhw gael rhyw â’r canwr oherwydd y pwysau arnyn nhw a’r niwed posib i’w gyrfaoedd pe na baen nhw’n ildio.

Datganiad gan y canwr

“Dw i wedi treulio amser dros y misoedd diwethaf yn meddwl am yr honiadau gan amryw gydweithwyr i fi yn fy erbyn,” meddai Placido Domingo mewn datganiad.

“Dw i’n parchu’r ffaith fod y menywod hyn, o’r diwedd, yn teimlo’n ddigon cyfforddus i leisio’u barn, a dw i am iddyn nhw wybod fod yn ddrwg iawn gen i am y loes wnes i ei achosi iddyn nhw.

“Dw i’n derbyn cyfrifoldeb llawn am fy ngweithredoedd, a dw i wedi tyfu yn sgil y profiad hwn.

“Dw i’n deall nawr fod rhai menywod wedi ofni mynegi eu hunain yn onest, o bosib, oherwydd yr ofn y byddai eu gyrfaoedd yn cael eu heffeithio’n negyddol pe baen nhw’n gwneud hynny.

“Tra nad oedd hynny’n fwriad gen i, ddylai neb gael eu gorfodi i deimlo felly.

“Dw i wedi ymrwymo i greu newid positif yn y diwydiant opera fel nad oes angen i unrhyw un arall gael yr un profiad hwnnw.

“Fy nymuniad cryf yw mai’r canlyniad fydd creu lle mwy diogel i weithio i bawb yn y diwydiant opera, a gobeithio y bydd fy esiampl yn y dyfodol yn annog pobol eraill i ddilyn.”