Mae Harvey Weinstein wedi’i gael yn euog o dreisio ac ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.

Mae’r cynhyrchydd ffilmiau’n wynebu 29 o flynyddoedd yn y carchar, wrth iddo aros i gael ei ddedfrydu fis nesaf.

Dywedodd y barnwr yn yr achos ei fod e’n “ysglyfaeth rhywiol a ddefnyddiodd ei rym i fygwth, treisio, ymosod a thwyllo, diraddio a thawelu ei ddioddefwyr”.

Ond mae disgwyl i’w gyfreithwyr apelio yn erbyn y dyfarniad wrth iddo barhau i fynnu ei fod e’n ddieuog.

Cafwyd e’n euog o dreisio actores mewn gwesty yn Efrog Newydd yn 2013, ac o ymosod yn rhywiol ar gynorthwy-ydd cynhyrchu yn ei fflat yn 2006, a hynny ar ôl pum niwrnod o bwyso a mesur gan y rheithgor.

Beth nesaf?

Serch hynny, cafwyd e’n ddieuog o rai o’r cyhuddiadau mwyaf difrifol, sef dau achos o ymosod yn rhywiol a allai fod wedi arwain at oes o garchar.

Yn ôl yr actores Anabella Sciorra, roedd Harvey Weinstein wedi gwthio’i ffordd i mewn i’w fflat cyn ei threisio a’i gorfodi i gwblhau gweithred rywiol arno yn y 1990au.

Mae disgwyl iddo gael ei gadw mewn ysbyty am y tro er mwyn derbyn triniaeth ar ei gefn.

Yn ogystal â’r tair dynes oedd wedi ei gyhuddo fel rhan o’r achos llys, mae tair arall yn dweud iddo ymosod arnyn nhw.

Wnaeth e ddim rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos, ond fe wnaeth ei gyfreithwyr ddadlau fod y rhai oedd yn ei gyhuddo wedi cydsynio i weithgarwch rhywiol gyda fe.

Bydd e nawr yn wynebu cyhuddiadau yn Los Angeles, lle mae’r awdurdodau’n honni iddo dreisio dynes ac ymosod ar un arall yn ystod wythnos gwobrau’r Oscars yn 2013.

Ymateb

Ar ddiwedd yr achos, mae Rowena Chiu, un o’r rhai oedd wedi ei gyhuddo, yn dweud ei fod yn “ddiwrnod mawreddog” ond dydy hi ddim yn deall sut cafwyd e’n ddieuog o rai o’r cyhuddiadau mwyaf difrifol.

“Rydych chi’n aml yn ofni’r gwaethaf a dw i’n teimlo rhyddhad mawr ac ychydig yn gyfiawn fod yna rywfaint o gollfarn.”

Yn ôl Rose McGowan, un arall oedd wedi ei gyhuddo, mae’r dyfarniad yn “gam mawr ymlaen” ar “ddiwrnod pwerus”.

“Ugain mlynedd yn ôl, penderfynais i fynd ar ôl Weinstein oherwydd ro’n i wedi clywed amdano fe’n gwneud hyn i rywun arall, ac fe glywais i wedyn ei fod e wedi’i wneud e rywun arall a rhywun arall…

“Mae gan bob un ohonon ni ddaeth ymlaen enw, hanes, bywyd, ac rydyn ni’n fwy na Weinstein.

“Ond heddiw, oherwydd y menywod dewr oedd wedi rhoi eu loes dyfnaf gerbron y byd, mae e yn Rikers Island.

“Am unwaith, fydd e ddim yn eistedd yn gyfforddus.

“Am unwaith, bydd e’n gwybod sut beth yw cael grym wedi’i glymu o gwmpas ei wddf.”