Mae plaid newydd Neil McEvoy, y Welsh National Party, wedi cael ei thynnu oddi ar gofrestr y pleidiau yn dilyn bygythiad cyfreithiol gan Blaid Cymru oherwydd yr enw.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Comisiwn Etholiadol i ddiddymu cofrestriad yr enw ‘Welsh National Party’ neu gwblhau adolygiad pellach o’r broses gofrestru.

Ym mis Chwefror, penderfynodd y Comisiwn Etholiadol i beidio gadael i’r ‘Welsh National Party’ ddefnyddio’r enw Cymraeg, ‘Plaid Genedlaethol Cymru’.

Fe benderfynon nhw y byddai’r enw Cymraeg, er ei fod yn gyfieithiad uniongyrchol, yn rhy debyg i enw Plad Cymru ac y byddai’n cymhlethu’r etholwyr.

Ond, mae Plaid Cymru yn dadlau, o dan yr un egwyddor, na ddylai’r Comisiwn Etholiadol fod wedi gadael i’r ‘Welsh National Party’ ddefnyddio’r enw Saesneg chwaith.

Mae Neil McEvoy, sydd yn Aelod o’r Senedd, yn dweud ei bod yn “ddiwrnod cywilyddus i ddemocratiaeth yng Nghymru.”

“Mae plaid newydd, sydd yn barod i guro’r Prif Weinidog yng Ngorllewin Caerdydd y flwyddyn nesaf yn cael ei ganslo oherwydd fod gwrthwynebwr wedi cwyno. Dyw pethau fel hyn ddim yn digwydd mewn democratiaeth,” meddai.

O’r newydd

Mewn llythyr i Neil McEvoy, dywedodd Rheolwr Cofrestru’r Comisiwn Etholiadol, Jamie Weisz, fod yn rhaid iddyn nhw ystyried llythyr Plaid Cymru ac felly wedi penderfynu ystyried cais y WNP o’r newydd.

“Mae hyn yn golygu nad ydy’r penderfyniad a wnaed ar Ionawr 15, 2020 i gofrestru eich plaid bellach yn sefyll ac y bydd y Comisiwn nawr yn trin eich cas fel cais newydd. Mi fydd, wrth gwrs, yn cael ei ystyried gan bobl nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol a mi fydd ganddoch chi gyfle i wneud ychwanegion neu addasiadau i’ch cais pe baech yn gweld hynny o gymorth.”

“Dylai pob plaid gwleidyddol gael eu trin yn gyfartal ac yn deg”

Yn ôl Neil McEvoy mae ei blaid wedi cydymffurfio gyda pob rheoleiddiad gan y Comisiwn Etholiadol ac wedi cyflwyno eu henillion etholaethol chwarterol yn barod.

“Rydyn ni wedi gwneud popeth yn iawn” meddai.

“Pan wrthododd y Comisiwn ein henw Cymraeg, gan honni y byddai’n drysu’r etholwyr, fe dderbynion ni’r penderfyniad yn syth a chynnig un gwahanol. Ond fe fethon nhw wneud penderfyniad ar yr enw yna mewn dros dau fis.”

“I’r Comisiwn i ddigofrestru’n plaid ni mor ddisymwth, mae’n ysgytwol. Wnaethon nhw ddim hyd yn oed siarad gyda ni cyn gwneud. Sut allwn ni ddweud ein bod ni’n byw mewn democratiaeth pan mae pleidiau sydd yn cadw at y rheolau yn cael eu diddymu dros nos oherwydd llythyr bygythiol a anfonwyd gan blaid arall a’u cyfreithwyr drud o Lundain? Dylai pob plaid gwleidyddol gael eu trin yn gyfartal ac yn deg.

“Mae’r penderfyniad yma yn dystiolaeth ychwanegol fod angen newid sylfaenol yng Nghymru. Mae’r Sefydliad yn meddwl eu bod nhw’n cael gwneud be fynnon nhw nawr. Ond fe welan nhw fod yna egni newydd am newid yng Nghymru. Mi fyddwn ni’n sefyll yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf, be bynnag y daw.”

Ystyried y gŵyn

Mewn datganiad i Golwg360 ar y mater, meddai’r Comisiwn Ethoiadol;

“Rydyn ni wedi derbyn cwyn ynghylch cofrestriad y Welsh National Party. Ar ôl ystyried y gŵyn, rydyn ni wedi penderfynu ystyried y cais cofrestru o’r newydd, gan roi cyfle i bleidiau eraill dan sylw i rannu eu barn am y cais fel rhan o’r broses.

“Rydyn ni wedi ysgrifennu at y Welsh National Party yn ogystal a’r blaid a gyflwynodd y gŵyn, Plaid Cymru, i’w cynghori nhw o’n penderfyniad.”