Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru wedi codi amheuon am y drefn o gydweithio rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig yn wyneb bygythiad Covid-19.

Bellach mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon, a’r Llywodraeth yn San Steffan i gael gafael ar ddeunydd allweddol.

A thrwy’r trefniant yma daw cyfran o PPE (offer diogelwch personol) a phrofion coronafeirws Cymru – mae’r wlad hon hefyd yn darparu deunydd i’r tair gwlad arall.