Mae cynghorwyr ledled y wlad yn pryderu am sefyllfa ariannol ansicr. Ond gyda’r cyhoeddiad yn y Gyllideb fod £1.7 biliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru, a oes goleuni ar derfyn y twnnel?

Rhys Owen sydd wedi bod yn holi aelod o Lywodraeth Prydain a sawl arweinydd cyngor…

Mae cynghorau sir yn hanfodol i sut mae pobl yn byw o ddydd i ddydd, gyda’u gweithwyr yn gwagio biniau, llenwi tyllau yn y lôn, a chynnig gofal cymdeithasol.