Mae teuluoedd yn fwy amrywiol nag y buon nhw erioed. Mae llysfamau a llystadau’n fwy cyffredin. Dyw cael llysfrodyr a llyschwiorydd ddim yn anarferol. Mae gan rai teuluoedd ddau dad. Mae gan rai ddwy fam. Dyw rhieni di-briod neu ddi-bartner ddim bellach yn cael eu hystyried yn faw isaf y domen.

Ac mae hyn i gyd i’w groesawu.