Mae Mark Drakeford wedi taro’n ôl wedi i grŵp o Geidwadwyr ei gyhuddo o beryglu pobol Cymru.

Wythnos ddiwethaf mi dderbyniodd Prif Weinidog Cymru lythyr gan ddwsin o Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Roedd y llythyr yn beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â chynnig profion Covid-19 i ragor o bobol, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr.

“Oherwydd y gwahaniaeth o ran argaeledd profion Covid-19, bydd rhai yn ein hetholaethau yn dal cofid heb angen,” meddai’r Ceidwadwyr.