Mae’r posibiliad o achub safleoedd cwmni gwneud dillad Laura Ashley yn y Drenewydd yn “diflannu’n fwyfwy bob dydd”, yn ôl yr Aelod o’r Senedd lleol.

Aeth y cwmni – sydd â gwreiddiau Cymreig – i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Mawrth, a fyth ers hynny mae wedi bod mewn trybini.

Yn ôl Russell George, AS Sir Drefaldwyn, fisoedd yn ôl roedd rhyw 550 yn gweithio i’r cwmni mewn sawl safle yn y Drenewydd.

Ond dros amser mae “rhai cannoedd” wedi colli swyddi, rhyw 200-250, meddai, ac mae’n dweud ei fod yn amlwg bod y safleoedd yn “dirwyn i ben”.

“Mae’r cwmni wedi bod yn rhan o’r economi ers dros 50 mlynedd,” meddai wrth golwg360, “ac mae’n sicr yn ergyd drom i bobol canolbarth Cymru.

“O’r rheiny sydd wedi colli’u swyddi, bu llawer yn gweithio i Laura Ashley am flynyddoedd maith – degawdau. Mewn rhai achosion roedd teuluoedd cyfan yn cael eu cyflogi gan Laura Ashley.

“Mae’n siomedig bod rhywbeth sydd wedi bod mor bwysig i ganolbarth Cymru yn mynd i – mae’n ymddangos – ddiflannu o’r ardal.

“Mae’n dal gen i rywfaint o obaith y bydd ffyrdd o gadw’r safleoedd yn y Drenewydd. Ond yn anffodus mae’r opsiynau yna yn diflannu yn fwyfwy bob dydd.”

Gwreiddiau yng Nghymru

Mae’r cwmni yn gwerthu dillad a nwyddau i’r cartref, ac roedd ei ffatri gyntaf ym mhentref Carno, ger y Drenewydd. Dynes o Gymru oedd y dylunydd ffasiwn Laura Ashley.

Ar ei anterth roedd gan y cwmni 5,000 o siopau ledled y byd.

Mae golwg360 wedi cysylltu â’r cwmni am ymateb.