Mae Colegau Cymru wedi gofyn am eglurder ar gynlluniau ailagor colegau addysg bellach o fis Medi gan Lywodraeth Cymru.

Daw hyn yn dilyn datganiad y Llywodraeth Cymru  ar ailagor ysgolion Cymru fel eu bod yn dysgu wyneb yn wyneb ym mis Medi.

Dywed Colegau Cymru bod angen eglurhad arnyn nhw gan fod colegau i fod i ailagor ar yr un diwrnod ag ysgolion, a’u bod angen amser i baratoi.

Mae Colegau Cymru yn siomedig na chafodd darpariaeth ar gyfer addysg bellach ei egluro ar yr un pryd ag ysgolion.

Ymysg y mesurau maen nhw’n ddweud sydd angen eu hystyried, mae:

  • Cefnogaeth ar gyfer oedolion ifanc a dysgwyr dros 19 oed, gan na fydd llacio’r rheolau pellhau cymdeithasol a gyhoeddwyd ar gyfer ysgolion bob amser yn briodol mewn cyd-destun coleg.
  • Cydnabod y gost ychwanegol o sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer nifer uwch o ddysgwyr ar y campws. Bydd cofrestriad blynyddol 2020/21 yn debygol o gynyddu wrth i nifer o ddysgwyr galwedigaethol cyfredol ddychwelyd ym mis Medi i gwblhau eu cymwysterau ac i ennill eu tystysgrifau Trwydded i Ymarfer.
  • Fel mewn ysgolion, bydd angen cefnogaeth benodol ar gyfer dysgwyr nad oeddent efallai wedi derbyn y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt mewn TGAU neu Lefel UG ac eisiau’r cyfle i ail-sefyll.
  • Bydd angen cyllid ychwanegol hefyd i ddiwallu anghenion penodol y nifer o ddysgwyr anghenion dysgu ychwanegol (ALN) a Sgiliau Byw Annibynnol (ILS).

“Gydag ychydig dros chwe wythnos cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd, mae’n hanfodol i’n haelodau dderbyn arweiniad i allu cynllunio’n briodol,” meddai Colegau Cymru.

Cydweithio

Dywed Colegau Cymru eu bod yn “edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Gweinidog Addysg a’i swyddogion Llywodraeth” wrth i geisio cael arweiniad penodol ar gyfer y sector addysg bellach.

“Rydym yn dawel ein meddwl bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi rhoi anghenion a diogelwch dysgwyr wrth wraidd eu prosesau penderfynu.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda nhw wrth iddyn nhw barhau i wneud hynny ac at ailddechrau dysgu academaidd a galwedigaethol ar draws colegau addysg bellach Cymru”.