Mi allai tafarndai, bwytai, a chaffis, ailagor yn llawn ar ddechrau mis Awst.

Daeth y cadarnhad gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, heddiw.

Wrth annerch y Wasg, cadarnhaodd y byddai modd i dafarndai, bwytai, a chaffis wasanaethu cwsmeriaid y tu allan o dydd Llun nesa’ ymlaen.

A datgelodd y byddai modd iddyn nhw ailagor yn llawn a gweini cwsmeriaid y tu fewn o Awst 3 ymlaen – gan gymryd y bydd y diwydiant croeso yn “llwyddo” a gwneud jobyn da â’r llacio cychwynnol.

“Cyfrifoldeb y diwydiant yw dangos ei fod yn medru ailagor yn ddiogel y tu allan,” meddai. “Trwy wneud hynny, mi fydd yn rhoi hyder i gwsmeriaid i ddychwelyd i’r llefydd yma…

“Dw i’n hyderus y bydd y sector yn gwneud popeth sydd angen fel bod yr ailagor yn llwyddiannus.

“Pan wnawn nhw hynny, mi fydd yn rhoi hyder i’w cwsmeriaid wrth iddyn nhw ddychwelyd at gwrdd dan do – sefyllfa sydd â mwy o risg.”

Cyhoeddiadau

Yn siarad yn y gynhadledd bu iddo gyhoeddi y byddai’r gwasanaethau canlynol yn medru ailagor ar y dyddiadau canlynol.

  • Gorffennaf 11: lletyau yn ailagor (y rheiny lle nad yw gwestai yn dod wyneb yn wyneb ag eraill)
  • Gorffennaf 13: siopau trin gwallt; y rhan fwyaf o atyniadau dan do; gwasanaethau tu allan tafarndai, caffis a bwytai; yn ailagor
  • Gorffennaf 20: meysydd chwarae a chanolfannau cymuned yn ailagor
  • Gorffennaf 27: musnesau harddwch (siopau tatŵs ac ati), lletyau (y gweddill), sinemâu, amgueddfeydd, ac orielau, yn ailagor