Cafodd cais i ymestyn cartref mewn pentref ar lan y môr yn y gogledd ei gymeradwyo, er gwaethaf pryderon y gallai gael ei ddefnyddio fel llety gwyliau.
Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn gymeradwyo cais ar gyfer addasiadau ac estyniad i dŷ teras “cyffredin” â golygfeydd o’r môr yn Rhosneigr.
Daeth hynny yn dilyn penderfyniad cyfartal, a phleidlais troi’r fantol o blaid y cynnig.
Roedd cynllun Ffordd Warren wedi denu gwrthwynebiad lleol tros barcio a’r effaith ar eiddo cyfagos, a dadl tros “ormod” o lety gwyliau yn yr ardal.
Cynlluniau gwreiddiol
Yn wreiddiol, roedd y cynlluniau’n gofyn am estyniad dau lawr, ond roedd cynllun diwygiedig wedyn yn disgrifio dymchwel ystafell aml-bwrpas, ystafell lo gyfagos, a chodi estyniad un llawr.
Roedd hefyd yn cynnwys addasu atig gydag ystafell wely yn y cefn, gosod ffenest yn y to, paneli solar/PV, agoriadau ffenestri newydd, a phwmp gwres aer.
Fe wnaeth Rhys Jones, uwch swyddog cynllunio’r Cyngor, ddisgrifio’r datblygiad fel “estyniad bach yn y cefn i ddarparu ‘gofod ychwanegol i fyw’.
Cafodd y mater ei ddwyn gerbron y pwyllgor cynllunio eto gan yr aelod lleol, y Cynghorydd Neville Evans, ddydd Mercher (Tachwedd 6).
“Mae Ffordd Warren yn llythrennol fel cwningar; mae ffyrdd bychain yn mynd i bob man. Mae ei henw’n briodol.
“Dw i’n sicr fod y swyddog priffyrdd yn gwybod sawl cwyn rydyn ni’n eu derbyn am geir yn parcio yno.”
Pryderon
Wrth siarad ar ran cymydog, oedd wedi pasio adroddiad iddo gan ymgynghorydd, teimlwyd y gallai’r datblygiad “darfu” ar ei eiddo.
Roedd “gardd fach gul gerllaw”, a byddai’r adeilad newydd yn arwain at “golli golau haul”.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans ei bod yn “realistig y byddai’r eiddo hwn yn dod yn llety gwyliau neu’n AirBnB”.
“Mae’r Cyngor Cymuned eisoes yn llawn dop, gyda’r trothwy o 15% [ar gyfer nifer y llety gwyliau] eisoes wedi’i basio.
“Y ddadl ydy bod hwn yn gyfle i’r awdurdod cynllunio lleol ddangos ymrwymiad i’r polisi o gyfyngu prosiectau llety gwyliau mewn ardaloedd sydd dan bwysau mawr yn hyn o beth, megis Rhosneigr.
“Pe bai yna ddyluniad diwygiedig, dylid gosod amod er mwyn sicrhau nad yw’n dod yn llety gwyliau tymor byr dosbarth C6 neu C5 nad yw’n cael ei ddefnyddio fel prif breswylfa, h.y. fel llety gwyliau.”
Ond roedd y swyddog cynllunio’n mynnu ei fod yn “llety preswyl”, ac roedd y cais wedi’i wneud ar gyfer “datblygiad aelwyd”.
Roedd darogan ei ddefnydd yn y dyfodol “tu hwnt i orchwyl” yr adran gynllunio.
“Rhaid i ni ystyried rhinweddau pob cais fel maen nhw’n cael eu cyflwyno,” meddai.
“Does gennym ni ddim pelen grisial; allwn ni ddim darogan beth fydd yn digwydd efo’r cais hwn nac unrhyw gais arall, ac mae hynny’n egwyddor sy’n bwysig iawn i bwyllgor cynllunio.”
Roedd yr estyniad yn “un bach” na fyddai’n cael “effaith sylweddol” ar gymdogion, a fyddai e ddim i’w weld yn cael effaith andwyol ar gymeriad y breswylfa, yr ardal gyfagos, cyfleuster preswylfeydd cyfagos, na diogelwch ffyrdd.
Roedd y dyluniad ar y cyfan yn cydymffurfio â pholisïau, a’r argymhelliad oedd i’w gymeradwyo.
‘Ychwanegu at broblem ail gartrefi’
Gan dderbyn bod yna “hawliau datblygu’n cael eu caniatáu”, dywedodd y Cynghorydd Neville Evans ei fod yn “credu ei fod yn ychwanegu at broblem ail gartrefi – sydd eisoes yn llawn dop yn Rhosneigr”.
“Dw i’n parchu’r hyn ddywedodd y Cynghorydd Neville Evans ond, wrth gwrs, dydyn ni ddim wedi gwneud unrhyw beth o ran Erthygl 4, felly dw i’n teimlo bod ein dwylo wedi’u clymu”, ac fe gynigiodd e gymeradwyo’r cynlluniau.
Fe gytunodd y Cynghorydd Douglas Fowlie â’r Cynghorydd Neville Evans, ond gan ychwanegu bod pobol leol yn gwybod fod yr ardal “yn hunllef o ran parcio”.
Fe wnaeth y Cynghorydd Neville Evans argymell ei wrthod ar sail parcio a’r effaith ar eiddo cyfagos.
“Fedrwn ni ddim gwneud fawr ddim byd arall hyd nes ein bod ni’n ceisio cyflwyno Erthygl 4,” meddai.
Pleidleisiodd pum cynghorydd o blaid derbyn y cynigion, tra bod pum wedi pleidleisio yn erbyn.
Sicrhaodd pleidlais troi’r fantol y cadeirydd, y Cynghorydd Glyn Haines, fod y datblygiad wedi cael ei basio.
Offeryn cynllunio ydy Cyfarwyddyd Erthygl 4 sy’n cyfyngu’r gallu i newid defnydd eiddo heb gael caniatâd cynllunio.
Cafodd ei fabwysiadu gan Gyngor Gwynedd er mwyn rheoli effaith ail gartrefi ar ochr arall y Fenai.