Dydy unrhyw ostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ar blatfform cymdeithasol X (Twitter gynt) ddim yn golygu bod yr iaith yn encilio ar gyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol, yn ôl arbenigwr yn y maes.

Er gwaetha’r pryderon cynyddol ynglŷn â diffyg Cymraeg ar X yn ddiweddar, wrth i fwy a mwy o bobol adael, dydy Rhodri ap Dyfrig ddim yn credu bod hynny yn “broblematig”.

Troi at Instagram

Wrth siarad â golwg360 am X, dywed Rhodri ap Dyfrig nad yw’n hoff iawn o’r “newid i natur y llwyfan” yn ddiweddar, a’i fod yn treulio mwy o amser ar Instagram erbyn hyn.

“Dw i efallai yn cilio i ffwrdd o lefydd lle mae yna lot fwy o rannu barn a dadlau, ac yn trio bod mewn lle sydd ychydig bach yn fwy creadigol a chefnogol,” meddai.

“Y math o le, efallai, roeddwn i’n ei fwynhau degawd a mwy yn ôl, pan oedd Twitter yn cychwyn.”

Er mai prin yw’r amser mae’n ei dreulio ar X bellach, dydy e ddim yn teimlo’r angen i ddefnyddio’i gyfrif BlueSky neu Threads yn aml chwaith, a’r rheiny’n llwyfannau mae llawer o bobol wedi symud atyn nhw ers gadael X.

“Mae Threads yn creu cyfrif i ti yn awtomatig os oes gen ti gyfrif Instagram,” meddai.

“Os wyt ti’n defnyddio Instagram, mae’n creu rhwydwaith o bobol ti’n gyfarwydd â nhw ar Instagram hefyd.

“Mae yna lot o bobol efallai fyswn i ddim yn eu dilyn ar Twitter.

“Felly ro’n i’n dilyn mwy o bobol greadigol ar Instagram yn lle’r bobol newyddion neu wleidyddol fyswn i’n eu dilyn ar Twitter.

“Roedd hynny yn ei hun yn ddiddorol ar y dechrau, ond wedyn dydw i ddim yn siŵr pam fy mod i eisiau eu gweld nhw ar Threads yn ogystal ag ar Instagram, a bod yn onest.”

X yn “gyfran eithaf bach” o’r cyfryngau cymdeithasol

Dywed Rhodri ap Dyfrig fod X yn “gyfran eithaf bach o gyfryngau cymdeithasol”, ac mai ei brif ffocws gan amlaf yw newyddion a’r hyn sy’n digwydd yn y foment, yn hytrach na faint o ddefnyddwyr sydd ar y platfform.

“Mae hynny yn dal i barhau i ryw raddau,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod y wasg a’r gwleidyddion yn gyndyn o adael fynd o’r lle yna maen nhw wedi arfer trafod a siarad a rhannu gwybodaeth am beth maen nhw’n ei wneud.

“Ond i lot o bobol, dydi X ddim yn le maen nhw eisiau bod, ac felly maen nhw eisoes wedi mynd i TikTok ac i lefydd eraill ers blynyddoedd – lot o lefydd lle mae’r Gymraeg yn bodoli.”

Mae ystadegau’n dangos bod defnyddwyr dyddiol X yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng o wyth miliwn flwyddyn yn ôl i ryw 5.6m erbyn mis Medi eleni.

Fodd bynnag, ychwanega Rhodri ap Dyfrig nad yw ystadegau defnyddwyr X yn fyd-eang “wedi gostwng cymaint â hynny.”

“Mae’n bosib gweld ar lefel Prydain fod defnydd yn lleihau, ond ar lefel ryngwladol efallai ei fod yn dal i ddal ei dir.

“Mae patrwm gwahanol ym mhob gwlad ac, o fy rhan i, dw i’n treulio lot mwy o amser ar TikTok ac ar Instagram bellach, a hyd yn oed ar Facebook.”

Er gwaetha’r gostyngiad yn ei bresenoldeb ar X, dydi o ddim yn teimlo bod hyn yn “broblematig”, ac mae’n pwysleisio bod y Gymraeg yn fyw ar sawl platfform arall.

“Mae yna lot o lefydd lle mae’r Gymraeg yn bodoli, yn cael ei siarad â’i defnyddio,” meddai.

“Mi weli di stwff ar TikTok, creators yn fan yna ac ar Instagram hefyd.

“Mi wnei di weld llwyth o sgyrsiau mewn grwpiau ar Facebook a phobol yn siarad yn eu cymunedau ac am hyn a’r llall.

“Mae [X] yn un math o blatfform, efallai, sy’n gweld llai o ddefnydd ond dw i ddim yn credu yn y pen draw fod hynny’n mynd i niweidio defnydd y Gymraeg ar-lein.

“Mae o jyst yn symud o gwmpas.”

‘Pobol yn bownd o sticio o gwmpas’

Wrth siarad â golwg360 yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Cefin Roberts y gallai gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ar X “wthio’r iaith i’r cyrion” yn y dyfodol.

Ond teimla Rhodri ap Dyfrig nad yw hynny’n digwydd yn fwriadol.

Gyda llai o bobol yn defnyddio’r platfform, bydd llai yn rhyngweithio gyda’r cynnwys, ac felly dydyn nhw ddim yn mynd i gael eu cynnwys gan yr algorithm, meddai.

“Y lleiaf o bobol sydd yna, y lleiaf o gynnwys sy’n mynd i gael ei rannu ar dy timeline di.

“Dydw i ddim yn meddwl fod yna ddim byd pwrpasol yno, a dweud y gwir.

“Os wyt ti’n dilyn [rhywun], yna dylai [eu cynnwys] ddod i fyny ar y rhestr Following.

“Mae’r trend yma wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd bellach, a dw i’n meddwl fod yna sawl hoelen yn arch X yn cael eu hoelio i mewn.

“[Gyda’r] math yma o blatfform, mae yna bobol yn bownd o sticio o gwmpas arnyn nhw, achos maen nhw wedi arfer efo’r platfform yna hyd yn oed os ydi faint o bobol maen nhw’n siarad efo nhw yn mynd yn llai.

“Dw i’n siŵr fod yna dipyn o bobol ar MySpace pan gafodd hwnnw ei gau i lawr, ond wrth i’r adnodd a’r buddsoddiad tu ôl i’r peth fynd yn llai neu gael ei gyfeirio i ryw ffordd wahanol, dyna sy’n penderfynu os yw’n parhau ai peidio.

“Dwn i ddim; mi all X gario ymlaen am yn hir iawn, achos mae yna dal, efallai, lot o bobol sydd eisiau’r math yma o gyfeiriad mae Elon Musk wedi mynd â fo.

“Efallai fod hynny ddim yn boblogaidd i bobol yma yng Nghymru, ond efallai ei fod o i asgell dde America.”

Donald Trump ac Elon Musk

Gyda Donald Trump wedi sicrhau ei le fel Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau, mae Rhodri ap Dyfrig yn credu y bydd llawer o bobol yn ei ddilyn [ar X], a bod X yn fath o blatfform sy’n ffynnu ar “farn sy’n gallu bod yn eithafol weithiau”.

Cwestiwn mawr, efallai, yw “os ydi hysbysebwyr eisiau parhau i hysbysebu a gwneud elw” oddi ar X.

Pwysleisia Rhodri ap Dyfrig nad yw’r gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ar X yn bryder mawr, cyhyd â bod yr iaith i’w chlywed ar blatfformau eraill.

“Cyn belled â bod pobol sy’n siarad Cymraeg yn dal i hawlio tir pan mae yna blatfform newydd yn dod, a chreu gofod iddyn nhw yna, dyna ydi’r peth pwysig rili.

“Dydi’r ffaith fod llai o Gymraeg, efallai, yn cael ei defnyddio [ar X] ddim yn golygu fod yna ddim Cymraeg yn cael ei defnyddio ar-lein.

“Yn y pen draw, dyna ydi’r peth pwysig, dw i’n meddwl.”

Pryder ynglŷn â diffyg Cymraeg ar X

Efa Ceiri

Gallai hyn arwain at wthio’r iaith i’r cyrion yn y dyfodol, meddai Cefin Roberts, Cyd-Gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy